Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Canada.
Pam Canada?
Ar hyn o bryd, mae Canada ymysg y 10 marchnad blaengar i allforion Cymru. Mae ganddi gysylltiadau diwylliannol, hanesyddol a ieithyddol da gyda’r Deyrnas Unedig, yn ogystal â thwf parhaus ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i gwmnïau o Gymru ym mhob math o sectorau.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio.
Mae’r gost yn £1,500.00. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 6 noson gyda brecwast
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys yn y costau uchod.
Y dyddiad cau i geisiadau yw 29 Gorffennaf 2022.
*Subject to eligibility.