Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei rhith-ymweliad â marchnad allforio Awstralia.
Pam Awstralia?
Mae Awstralia yn wlad ddelfrydol ar gyfer profi a datblygu cynnyrch a gwasanaethau newydd. Mae tua tair rhan o bump o boblogaeth Awstralia yn byw yn y 4 dinas fwyaf, sy’n ei gwneud hi’n hawdd i flaenoriaethu ble i lansio eich cynnyrch neu wasanaeth.
Awstralia yw 15fed marchnad allforio fwyaf y DU, a chafwyd gwerth £14.9 biliwn o fasnach rhwng y DU ac Awstralia yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Medi 2021.
Mae cyfleoedd yn bodoli ar gyfer cwmnïau o’r DU mewn sectorau amrywiol iawn, gan gynnwys gwasanaethau ariannol a thechnoleg ariannol, technoleg, seiber ddiogelwch a seilwaith.
Pam Mynd ar y Rhith-ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gost-effeithiol o ymchwilio i’r farchnad heb orfod gadael eich swyddfa na’ch cartref
- Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf
- Rhith-gyfarfod i ddod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad
- Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig lleoedd cychwynnol am ddim yn ei rhith-ymweliad i fusnesau o Gymru â marchnad allforio Awstralia. Bydd y rhith-ymweliad yn cynnwys:
- Rhith-sesiwn friffio am y farchnad
- Trefnu rhith-gyfarfodydd â hyd at 3-4 cyswllt busnes a phenderfynwyr yn y farchnad
- Cymorth un-i-un â chynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Eich Ymrwymiad
Bydd y rhith-ymweliad hwn â’r farchnad allforio yn cael ei gynnal dros gyfnod o 8-12 wythnos, trwy alwadau fideo rhwng 7-7-9am. Ni fyddant yn digwydd bob dydd, a chewch rybudd eu bod yn cael eu cynnal. Byddwn yn gallu cadarnhau yn y cyfarfodydd un-i-un pryd y byddwch chi ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr ymweliad hwn felly ni godir tâl arnoch i gymryd rhan, ond rydym yn gofyn ichi beidio â gwneud cais oni bai’ch bod yn gallu addo eich bod ar gael ar gyfer y cyfarfodydd a drefnir ichi.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau
*Yn amodol ar fod yn gymwys