Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Tokyo, Japan.
Pam Japan?
Japan yw’r drydedd economi fwyaf yn y byd a’r bedwaredd wlad fwyaf o ran masnachu rhyngwladol. Mae’n farchnad hynod o ddatblygedig, gyda seilwaith modern ac mae’n cael ei gweld fel pwerdy economi uwch-dechnoleg Asia.
Mae Japan yn farchnad amrywiol, gyda lefel uchel o wariant defnyddwyr, ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae dau opsiwn cymorth ar gael ar gyfer yr ymweliad:
Cymorth o ran teithio yn unig
Mae’r gost yn £1,900.00. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 6 noson gyda brecwast
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys yn y costau uchod.
Sylwch, os hoffech gael y cymorth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 8 wythnos cyn i’r ymweliad â marchnad allforio neu’r arddangosfa ymadael. Os cyflwynir eich cais ar ôl 6 Awst 2022, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau
*Yn amodol ar fod yn gymwys.