Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio a Doha, Qatar.
Pam Qatar?
Qatar yw un o wledydd cyfoethocaf y byd gyda GDP y pen uchel iawn. Mae’r farchnad gyfoethog hon sydd â phoblogaeth ar gynnydd ynghyd ag economi lewyrchus yn parhau i dyfu.
Mae gan Qatar raglenni seilwaith uchelgeisiol fel rhan o’i Gweledigaeth Genedlaethol ar gyfer 2030. Mae hefyd yn buddsoddi yn ei system gofal iechyd, gan newid o fodel ysbytai sy’n ymateb i’r galw i system gymunedol sy’n atal y galw.
Mae Qatar yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig o fewn sectorau gwerth uchel Gweithgynhyrchu, Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg.
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
- Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau fel y gallant gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Y gost yw £1,250.00. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 6 noson gyda brecwast
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
GWASANAETH TREFNU CYFARFODYDD
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys yn y costau uchod.
Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 8 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl 10 Mawrth 2023 ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Mae recriwtio ar gyfer y digwyddiad yma bellach wedi cau