Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei rhith-ymweliad â marchnad allforio India.
Pam India?
India yw un o'r economïau sy'n tyfu gyflymaf yn y byd, ac mae’r 5ed mwyaf yn y Byd. Mae ganddi ddosbarth canol sy'n tyfu'n gyflym ac un o boblogaethau ieuenctid mwyaf y byd.
Mae Economi ddeinamig India yn gartref i lawer o gwmnïau rhyngwladol a domestig, gan gynnwys TATA, Grŵp Essel, Reliance Industries, Nissan, a Pfizer.
Mae India yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymru ym mhob sector blaenoriaeth; gweithgynhyrchu gwerth uchel, technoleg, gwyddor bywyd, cynhyrchion defnyddwyr, ynni glân a bwyd a diod.
Pam Mynd ar y Rhith-ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Drwy fod yn rhan o’r rhith-ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
- Ffordd gost-effeithiol o ymchwilio i’r farchnad heb orfod gadael eich swyddfa na’ch cartref
- Golwg gyffredinol ar y farchnad a’r sefyllfa ddiweddaraf
- Rhith-gyfarfod i ddod i adnabod cysylltiadau busnes a phenderfynwyr defnyddiol yn y farchnad
- Cymorth un-i-un gan ein cynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig lleoedd cychwynnol am ddim yn ei rhith-ymweliad i fusnesau o Gymru â marchnad allforio India. Bydd y rhith-ymweliad yn cynnwys:
- Rhith-sesiwn friffio am y farchnad
- Trefnu rhith-gyfarfodydd â hyd at 3-4 cyswllt busnes a phenderfynwr yn y farchnad
- Cymorth un-i-un â chynrychiolydd yn y farchnad
- Eich cynnwys mewn deunydd marchnata digidol.
Eich Ymrwymiad
Bydd y rhith-ymweliad hwn â’r farchnad allforio yn cael ei gynnal dros gyfnod o 6-8 wythnos, trwy alwadau fideo rhwng 9-12am. Ni fyddant yn digwydd bob dydd, a chewch rybudd eu bod yn cael eu cynnal. Byddwn yn gallu cadarnhau yn y cyfarfodydd un-i-un pryd y byddwch chi ar gael.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn yr ymweliad hwn felly ni godir tâl arnoch i gymryd rhan, ond rydym yn gofyn ichi beidio â gwneud cais oni bai’ch bod yn gallu addo eich bod ar gael ar gyfer y cyfarfodydd a drefnir ichi.
Gwirio cymhwyster
- Ydych chi’n fusnes sydd wedi’i leoli yng Nghymru?
- Ydych chi eisoes yn allforio neu allech chi allforio’n llwyddiannus?
- Ydy eich cynnyrch neu’ch gwasanaeth yn tarddu’n bennaf o Gymru (neu’n ychwanegu gwerth sylweddol at gynnyrch neu wasanaeth nad yw’n tarddu o Gymru)?
- Ydy eich busnes yn berchen ar yr Eiddo Deallusol neu’r brand rydych yn ei werthu (neu fod ganddo’r hawl i wneud hynny)?
- Oes gan eich busnes uchelgais glir i dyfu drwy allforio yn rheolaidd ac mewn modd cynaliadwy?
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 24 Medi 2021
*Yn amodol ar fod yn gymwys.