Ynni Glân: Ymweliad â Marchnad Allforio Gwlad y Basg

Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan mewn ynni Glân ymweliad â marchnad allforio Gwlad y Basg.

Pam Gwlad y Basg?
Sbaen yw’r bumed economi fwyaf yn yr Undeb Ewropeaidd ac mae bellach yn un o’r rhai sy’n tyfu gyflymaf yn Ardal yr Ewro.  Mae poblogaeth Sbaen yn oddeutu 47 miliwn gan ei gwneud yn un o’r marchnadoedd defnyddwyr mwyaf yn yr UE.

Mae economi Gwlad y Basg yn parhau i dyfu ac yn cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymru o fewn y sectorau Ynni, Gwyddor Bywyd, Gofal Iechyd, Addysg a Bwyd a Diod. Mae hefyd yn creu cyfle gwych i brofi gweddill marchnad Sbaen.

Rydym yn falch iawn fod yr ymweliad hwn yn digwydd ar yr un pryd â Ocean Energy Europe (OEE) a’r Gynhadledd Ryngwladol ar Ynni’r Môr (ICOE) 17-21 Hydref yn San Sebastian, Sbaen gan alluogi allforwyr o Gymru i gymryd rhan yn y digwyddiad unigryw ac uchel ei fri hwn.

Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae dau opsiwn cymorth ar gael ar gyfer yr ymweliad:

Y gost yw £650.00 Mae hyn yn cynnwys:

• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
• Llety am x noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
• Cyfleoedd i gydweithio gyda chymheiriaid o fewn y sector hwn
• Rhaglen o gyfarfodydd gyda chysylltiadau busnes
• Tocyn i fynychu Ocean Energy Europe (OEEA) a’r Gynhadledd Ryngwladol ar Ynni’r Môr (ICOE)
 
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei gynnwys yn y costau uchod.

Y dyddiad cau i geisiadau yw 5 Awst 2022

*Yn amodol ar fod yn gymwys.