Archwilio Allforio Cymru 2024

Nodwch eich diddordeb isod

 

A yw eich busnes yn allforio? Oes gennych chi ddiddordeb mewn masnachu dramor? Hoffech chi wybod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael?  

Ble bynnag yr ydych ar eich taith allforio, gall cynadleddau Archwilio Allforio Cymru helpu eich busnes! 

Mae Archwilio Allforio Cymru 2024 yn gyfle gwych i fusnesau rwydweithio â'i gilydd; cael y newyddion a'r cyngor allforio diweddaraf; siarad â sefydliadau cefnogol; edrych ar gyfleoedd dramor; a darganfod  dull o wneud eich busnes allforio yn fwy hunangynhaliol. 

 

Prif elfennau y diwrnod

Prif araith weinidogol a sesiwn llawn bydd busnesau sydd wedi llwyddo yn rhannu gwersi a ddysgwyd. 

Cyfarfodydd un-i-un gyda chynrychiolwyr y farchnad dramor – gall gynadleddwyr gyfarfod â chynrychiolwyr o farchnadoedd tramor i edrych ar gyfleoedd allforio. 

Arddangosfa – bydd sefydliadau o bob rhan o ecosystem allforio Cymru, gan gynnwys cyllid, cyfreithiol, logisteg, wrth law i drafod sut y gallant gynorthwyo eich busnes. 

Parth Allforio Llywodraeth Cymru cwrdd â'n Cynghorwyr Masnach Rhyngwladol ac edrych ar ein dulliau o gynnig cymorth digidol. 

Gweithdai allforio – detholiad o sgyrsiau sy'n darparu'r wybodaeth a'r cyngor diweddaraf ar elfennau allweddol masnach ryngwladol. 

 

Archwilio Allforio Cymru - De Cymru

Dydd Iau 14 Mawrth 2024 

Stadiwm Dinas Caerdydd

Ffordd Lecwydd

Caerdydd

CF11 8AZ

Archwilio Allforio Cymru – Gogledd Cymru

Dydd Iau 21 Mawrth 2024

Village Hotel - Chester St David's

St David’s Park

Ewloe

CH5 3YB

 

Archwilio uchafbwyntiau cynhadledd Allforio Cymru 2023: