Aforza - Andrew Keleher

Mae Aforza, y cwmni meddalwedd ddigidol o Gaerdydd, yn arbenigo mewn atebion ar sail y cwmwl ar gyfer diwydiannau nwyddau i ddefnyddwyr.

Sefydlwyd y cwmni yn 2019, ac mae’n datblygu meddalwedd sy’n helpu cwmnïau yn y sector i ddod â’u cynnyrch i’r farchnad, gan alluogi iddynt reoli eu hymgyrchoedd hyrwyddo, eu gwerthiannau a’u gwasanaethau dosbarthu gan ddefnyddio ap. 

Erbyn heddiw, mae Aforza’n allforio i 26 o wledydd ar draws pedwar cyfandir, gan gynnwys Ewrop a Gogledd America, a gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am dri chwarter o’i fusnes. Nod y cwmni yw cynyddu ei ffigurau allforio dros y pum mlynedd nesaf trwy fentro i farchnadoedd allweddol gan gynnwys America Ladin, y Dwyrain Canol a rhannau o Asia.

Mae’r cwmni wrthi’n paratoi i ehangu ei fusnes i’r Dwyrain Canol gan sefydlu ei ganolfan ryngwladol gyntaf yn Dubai ddechrau 2023 yn dilyn cynnydd mawr yn y galw am ei feddalwedd yn y rhanbarth.

Mae’r cymorth y mae’r cwmni wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru wedi rhoi hwb i lwyddiant allforio Aforza. Mae’r cymorth yma’n cynnwys cymorth ariannol i fynychu ymweliadau â’r farchnad a sioeau masnach rhyngwladol. Cymerodd y cwmni ran yn un o sioeau masnach bwyd a diod mwyaf y byd, sef Gulfood yn Dubai, yn ddiweddar, lle cafodd gyfle i gwrdd â darpar-gwsmeriaid, gan ei gynorthwyo i adeiladu piblinellau gwerthu at y dyfodol.

Mae’r cwmni wedi cael gwybodaeth a chefnogaeth gan ymgynghorwyr arbenigol ar fasnachu ar lefel leol o fewn rhanbarthau targed fel Sbaen a Saudi Arabia hefyd.

Dywedodd Andrew Keleher, Cyfarwyddwr Marchnata Aforza: “Mae allforio yn rhan sylweddol o’n busnes ac mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn ein twf dros y blynyddoedd diwethaf. Bu Aforza’n wynebu sialensiau yn ystod y pandemig a gyfyngodd ar gyfleoedd i deithio, ond gyda chynnyrch digidol ar y cwmwl, roedd allforion yn ddewis amlwg ar gyfer ein strategaeth i ehangu.

“Mae’r galw am ein gwasanaethau wedi tyfu’n sylweddol, ac erbyn hyn rydyn ni’n edrych tuag America Ladin a rhannau o Asia fel rhanbarthau targed i barhau â’n siwrnai allforio. Allforion sydd i gyfrif am dros dri chwarter o’n busnes, a dydyn ni ddim yn disgwyl i’r galw arafu yn y dyfodol rhagweladwy.

“Er ein bod ni’n cynnig cynnyrch digidol, mae cwrdd â darpar-gleientiaid wyneb yn wyneb yn hanfodol i dyfu ein cwmni a diogelu contractau, yn arbennig wrth weithio gyda chwsmeriaid o wahanol wledydd. Mae’r cyfleoedd wyneb yn wyneb sydd wedi cael eu hwyluso gan Lywodraeth Cymru, ac yn arbennig y cyfle i fynychu sioeau masnach rhyngwladol, wedi bod yn amhrisiadwy i’n twf, gan arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd.

“Aseiniwyd ymgynghorydd masnach arbenigol i ni i’n cynorthwyo ar ein siwrnai allforio, a bu’n chwilio’n barhaus am gyfleoedd byd-eang ar gyfer ein busnes. Rhoesant gymorth i ni hefyd i gael gwell dealltwriaeth am sut mae ein marchnadoedd targed yn gweithredu, a sut i fentro iddynt mewn ffordd effeithiol, ac mae hynny wedi chwarae rhan anferth yn ein llwyddiant i ehangu.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen