Air Covers - John Pattinson

Mae Air Covers yn Wrecsam yn arbenigo mewn dylunio a chynhyrchu gorchuddion amddiffynnol ar gyfer awyrennau, cychod a cherbydau sifil a milwrol.

Sefydlwyd Air Covers gan y pâr priod, John a Sasha Pattinson yn 2006, ac mae’r cwmni’n cyflenwi sefydliadau o’r sectorau preifat a chyhoeddus, gan gynnwys cwmnïau awyrennau masnachol, cynhyrchwyr badau hwylio moethus, y lluoedd arbennig ac asiantaethau amddiffyn. Mae’r gorchuddion yn helpu i amddiffyn awyrennau, cerbydau tir sych a badau morol rhag difrod o gyrydiad, traul tywod, lleithder, halen, gwres ac ia, gan leihau’r angen am waith cynnal-a-chadw a chynyddu eu hargaeledd trwy hynny.

Heddiw, mae Air Covers yn allforio i dros 50 o wledydd ar draws Ewrop, America, y Dwyrain Canol, Awstralia, Seland Newydd ac Asia. Ymhlith cwsmeriaid allweddol y cwmni mae Airbus, Leonardo, General Dynamics, Babcock, Rolls Royce a Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU, yn ogystal â gweithredwyr morwrol a gwasanaethau meddygol ym mhedwar ban y byd. Allforion sydd i gyfrif am 65% o fasnach y cwmni heddiw, ond y nod yw cynyddu’r ffigur hwn i 75% erbyn 2024.

Mae Air Covers wedi llofnodi cytundeb buddiol i ddod yn unig gyflenwr gorchuddion ar gyfer hofrennydd newydd H145D3 Airbus. Mae’r cwmni’n disgwyl darparu 30 set y flwyddyn o 2023 ymlaen, a diolch i’r cytundeb, mae Air Covers ar y trywydd iawn i gyflawni ei nod o gynyddu allforion o chwarter erbyn diwedd 2022 o gymharu â’r llynedd.

Ers y dechrau’n deg, mae llwyddiant allforio Air Covers wedi cael ei hwyluso gan gefnogaeth Llywodraeth Cymru. Mae’r cymorth yma wedi caniatáu i’r cwmni fynychu nifer o deithiau a sioeau masnach rhyngwladol, sydd yn eu tro wedi arwain at gwsmeriaid a busnes newydd.

Dywedodd John Pattinson, sylfaenydd a rheolwr gyfarwyddwr Air Covers:

“Mae gweithio gyda Llywodraeth Cymru dros y 16 mlynedd diwethaf wedi ein cynorthwyo ni i ddyblu ein busnes allforio. Gyda’u cymorth nhw, rydyn ni wedi mynychu pob math o deithiau masnach ac arddangosfeydd rhyngwladol sydd wedi bod yn allweddol i dwf ein hallforion.

“Mae arddangos mewn sioeau masnach wedi bod yn rhan allweddol o’n strategaeth allforio, a dyma’n prif ddull o ddiogelu busnes. Rydyn ni’n gweithio i fynychu o leiaf pedwar neu bump sioe bob blwyddyn am eu bod nhw’n hanfodol i gyfarfod â darpar-gleientiaid ac adeiladu ar berthnasau sy’n bodoli eisoes. Maen nhw’n ein galluogi ni i weld y tueddiadau diweddaraf yn y diwydiant hefyd, ac i glywed o lygad y ffynnon pa broblemau mae peirianwyr a pheilotiaid yn eu hwynebu fel y gallwn barhau i wella ac addasu ein cynnyrch.

Wrth edrych tua’r dyfodol, mae Air Covers yn gobeithio targedu mwy o fusnesau yng Ngogledd America ac Awstralia, ac mae’r cwmni wedi cymryd rhan mewn teithiau masnach rithiol yn y rhanbarthau hyn. Mae arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno’r cwmni i bobl gyswllt yn y gwledydd o dan sylw hefyd, gan gynnwys cynrychiolwyr swyddfeydd y consyliaid perthnasol.  Nawr mae’r cwmni’n bwriadu defnyddio cronfa Ymweliadau Datblygu Busnes Tramor Llywodraeth Cymru, cronfa sydd wedi dod â llwyddiant iddo mewn meysydd eraill yn y gorffennol, i’w alluogi i ymweld â marchnadoedd sydd o ddiddordeb iddo â chymhorthdal.

Ychwanegodd John: “Bydden i’n argymell fod unrhyw allforiwr sydd am ehangu eu hallforion yn cysylltu â Llywodraeth Cymru am y gallan nhw gynnig pob math o gymorth i chi, boed hynny’n waith ymchwil a chyngor i ganfod y rhanbarthau a fyddai’n gweithio orau i’ch cwmni chi, cymorth i’ch cysylltu chi â phobl mewn marchnadoedd targed, neu’n syml trwy gynnig anogaeth i chi.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen