Mae gan Atlantic Service Company yng Nghasnewydd, cwmni gweithgynhyrchu blaenllaw sy'n cynhyrchu cyfarpar a ddefnyddir mewn gweithfeydd prosesu bwyd a siopau cig, eisoes restr helaeth o archebion rhyngwladol, ac mae ganddo gleientiaid mewn dros 50 o wledydd ar draws y byd.

Allforion sydd i gyfrif am 80% o fasnach y cwmni, a gwelodd gynnydd o 10% dros y flwyddyn ddiwethaf yn unig.  Mae'r cwmni bellach yn bwriadu hybu allforion i diriogaethau newydd yn rhan o gynlluniau ehangach i dyfu'r busnes.
 

Cynnyrch sefydledig o ansawdd uchel

Mae Atlantic Service Company yng Nghrymlyn yn adnabyddus ar draws y byd am ei lafnau gwydn o safon uchel, sy'n para'n dda ac sy'n cael eu defnyddio i dorri cig a physgod. Mae ei gynnyrch i'w weld mewn gweithfeydd prosesu bwyd a siopau cig a physgod dros y byd i gyd.

Sefydlwyd y cwmni yn UDA ym 1901 yn wreiddiol, a symudodd i Gymru ym 1980 i'w alluogi i ehangu i farchnad y  DU ac er mwyn darparu porth i'r farchnad Ewropeaidd. Sefydlwyd y gweithfeydd yng Nghymru fel busnes prydlesu ar y cychwyn, gan wasanaethu miloedd o gigyddion lleol, cyfanwerthwyr ac archfarchnadoedd ar draws y DU â llafnau at ddefnydd pob dydd. Ym 1993, galluogodd buddsoddiadau mawr mewn offer newydd iddo hybu cynhyrchant ac ehangu ei wasanaethau y tu hwnt i rentu.

Ar ôl ennill ei blwyf yn gyflym fel arweinydd clir ar farchnad y DU, roedd angen ffocws newydd arno, a throdd y cwmni ei olygon at ehangu rhyngwladol ar ôl gweld bod bwlch yn y farchnad am ei gynnyrch dramor. Yn 2001, penododd y cwmni reolwr allforio a diogelodd ei gontractau allforio cyntaf ar ôl mynychu arddangosfa IFFA - sef ffair fasnach fwyaf blaenllaw'r byd ar gyfer y diwydiant cig, sy'n cael ei chynnal yn yr Almaen unwaith bob tair blynedd.

Sylfaen cwsmeriaid rhyngwladol presennol

Ers hynny, mae'r cwmni wedi cynnal ei ffocws rhyngwladol ac mae ei drosiant wedi dyblu dros y chwe blynedd diwethaf o ganlyniad.  

Heddiw, o'i ganolfan yng Nghymru, mae Atlantic Service Company'n gwasanaethu cwsmeriaid ar draws pum cyfandir, ar ôl ychwanegu Asia a De America at y ei farchnadoedd sefydlog yng Ngogledd America ac Ewrop. Allforion sydd i gyfrif am 80% o'i fasnach, ac mae ganddo ddosbarthwyr yn Ewrop, De a Chanolbarth America, y Dwyrain Canol a Tsieina. 

Cyfleoedd newydd i'r farchnad dramor ar gyfer twf busnes

Er bod nifer fawr o archebion rhyngwladol gan y cwmni eisoes, mae'r Atlantic Service Company'n bwriadu cynyddu ei allforion eto fyth yn rhan o gynlluniau ehangach i dyfu'r busnes. Mae hyn yn  cynnwys symud i gyfleuster newydd yn yr un ardal cyn bo hir a fydd yn galluogi iddo gynyddu ei gapasiti'n sylweddol ac ehangu ymhellach fyth i farchnadoedd tramor.

Mae gan Atlantic Service Company uchelgeisiau i fentro i ragor o diriogaethau newydd yn y dyfodol agos - gan gynnwys Japan a Qatar - lle bu'r cwmni ar deithiau masnach rithiol Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Er bod teithiau masnach wedi digwydd wyneb yn wyneb yn y gorffennol, yn sgil y pandemig, addasodd Llywodraeth Cymru i gynnig profiadau masnach rhithwir llwyddiannus, gan sicrhau bod busnesau'n dal i allu cysylltu â darpar gleientiaid a dosbarthwyr.   

Mae Atlantic Service Company'n credu taw un ffactor allweddol yn llwyddiant a thwf allforion y cwmni dros y degawd diwethaf yw'r gefnogaeth a gafodd gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn wedi darparu gwybodaeth ymchwil gynhwysfawr am farchnadoedd mewn tiriogaethau newydd, gan ei helpu i ddeall gofynion marchnadoedd lleol, a'i gynorthwyo i fynychu nifer o deithiau masnach – rhai wyneb yn wyneb a thrwy ddulliau rhithiol. 

Dywedodd Elena Harries, Rheolwr Gwerthiannau Rhyngwladol Atlantic Service Company: "Mae allforion wedi chwarae rhan annatod yn ein twf dros y 10 mlynedd diwethaf, a byddwn yn argymell i unrhyw gwmni sy'n ystyried allforio i fynd amdani.

“Dros y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld diddordeb yn ein cynnyrch tramor yn cynyddu'n sylweddol wrth i'r galw am adwerthu bwyd gynyddu ar draws y byd. Rydyn ni'n bwriadu tyfu ein cangen allforio eto fyth dros y blynyddoedd nesaf, gan ehangu ein presenoldeb yn y gwledydd lle mae gennym gleientiaid eisoes, a mentro i farchnadoedd newydd sbon. 

“Gyda'r byd yn gweld cynifer o newidiadau ar hyn o bryd, byddwn yn argymell bod unrhyw gwmni yng Nghymru sy'n ystyried allforio'n cysylltu â Llywodraeth Cymru. Allem ni ddim fod wedi tyfu mor gyflym fel cwmni heblaw am eu cefnogaeth nhw.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen