Mae Celtic English Academy, yr ysgol iaith Saesneg o Gaerdydd, wedi gwneud enw rhyngwladol iddi hi hun ers iddi ddechrau addysgu myfyrwyr rhyngwladol 18 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau ar gyfer dros 1,200 o ddysgwyr y flwyddyn o dros 50 o wledydd gan gynnwys Saudi Arabia, yr Eidal, Sbaen a Japan.

Teithiau masnach tramor yn allweddol i lwyddiant dramor

Sefydlwyd y cwmni yn 2004, ac ar y cychwyn roedd y Celtic English Academy yn addysgu Saesneg mewn cwta pedair ystafell ddosbarth, a hynny i fyfyrwyr a oedd yn mynd ymlaen i astudio fel myfyrwyr rhyngwladol mewn prifysgolion lleol. Yn 2012, cafodd y cwmni gyllid gan Lywodraeth Cymru i'w gynorthwyo i fynychu teithiau masnach dramor, gan sbarduno ei ymgyrch allforio a'i gynorthwyo i ddatblygu enw da dramor.

Ers hynny, mae'r ysgol sydd ag achrediad y British Council, wedi tyfu'n sylweddol, gan ddenu myfyrwyr o bedwar ban y byd i astudio yn ei chyfleusterau arobryn yng Nghaerdydd.

Heddiw, allforion sydd i gyfrif am 95% o fasnach Celtic, ac mae'r cwmni wedi ehangu i gynnig cyrsiau ar lein a hybrid, yn ogystal â rhaglenni dysgu yn y wlad ei hun a rhaglenni datblygu athrawon – ac amrywiadau fel hyn sydd wedi helpu'r cwmni i aros yn gadarn trwy gydol y pandemig. 

Dros y tair blynedd diwethaf, mae Celtic wedi ennill pedwar contract newydd pwysig ar draws Ewrop, Affrica ac Asia, ac mae'n gweld hyn fel yr allwedd i'w gynorthwyo i ddychwelyd at y lefelau a welwyd cyn y pandemig. Yn fwyaf diweddar, mae'r cwmni wedi ennill dau gontract addysgu o bell gyda Kuwait a Fietnam, lle bydd yn darparu sesiynau ar lein gyda phartneriaid cenedlaethol yn y wlad er mwyn cynorthwyo datblygiad athrawon.

Archwilio marchnadoedd tramor newydd

Ar ôl blwyddyn ymestynnol, mae'r academi am ehangu ei phresenoldeb rhyngwladol eto fyth ac mae'n canolbwyntio'i hymdrechion ar America Ladin, Japan a'r Dwyrain Canol fel llwybrau ar gyfer adferiad a thwf y busnes. Mae'r ysgol wedi recriwtio staff yn Japan a Brasil, ac mae'n archwilio cyfleoedd dysgu yn Saudi Arabia mewn ymateb i'r galw cynyddol am addysgu trwy gyfrwng y Saesneg yn y rhanbarth.

Dywedodd Shoko Doherty, Prif Weithredwr Celtic English Academy: "Mae allforio'n reiddiol i ni fel busnes. Mae gweithio gyda myfyrwyr ac athrawon o amrywiaeth o wahanol wledydd, yn ogystal â'n pwyslais ar fod yn hyblyg ac addasu i newidiadau, wedi helpu i'n cadw ni'n wydn am nad ydym ni'n ddibynnol ar un farchnad neu ranbarth yn unig.”

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru, trwy Fusnes Cymru, wedi bod yn allweddol i lwyddiant Celtic, gan gynnwys darpariaeth y Gronfa Datblygu Busnes Dramor, sydd wedi caniatáu i gynrychiolwyr o'r cwmni ymweld â thiriogaethau newydd a mynychu ymgyrchoedd masnach i ddod o hyd i ddarpar-gleientiaid newydd neu ddod â chynhyrchion newydd i farchnadoedd sefydledig.

Ychwanegodd Shoko: "Rydyn ni wedi diogelu'r rhan fwyaf o'n busnes trwy deithio dramor a chwrdd â chleientiaid newydd yn uniongyrchol. Mae'r cysylltiadau hyn wedi bod yn hanfodol wrth ddenu myfyrwyr i astudio yn ein hysgol yng Nghymru, ac wrth feithrin perthnasau er mwyn ennill contractau mewnol yn y tiriogaethau targed, felly rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i Lywodraeth Cymru am eu cymorth i wireddu hyn.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen