Alana Rodgers - Eakin Surgical

Mae Eakin Surgical, cwmni gweithgynhyrchu yng Nghaerdydd, yn dylunio ac yn cynhyrchu offer llawfeddygol a dyfeisiau meddygol defnydd untro.

Mae’r cwmni, a sefydlwyd yn 2001 ac sy’n rhan o grŵp ehangach Eakin Healthcare, yn arbenigo mewn cynhyrchu offer defnydd untro ar gyfer triniaeth lawfeddygol gymhleth. Mae’r cynnyrch yn cynnig dewis untro o safon uchel yn hytrach na defnyddio offer parhaol, sy’n gallu cyfaddawdu diogelwch cleifion a deilliannau oherwydd yr anawsterau sydd ynghlwm wrth lanhau eitemau astrus.

Heddiw, mae Eakin Surgical yn allforio i dros 28 o wledydd ar draws Ewrop, Awstralia, Seland Newydd a De Affrica, a gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am draean o’i fusnes. Nod y gweithgynhyrchwr yw treblu ei ffigurau allforio dros y pum mlynedd nesaf trwy fentro i farchnadoedd allweddol fel America Ladin, y Dwyrain Canol a rhannau o Asia, lle mae sectorau gofal iechyd a gwyddorau bywyd sy’n llewyrchu ac ar dwf.

Allforio i farchnadoedd newydd

Mae’r cwmni’n bwriadu ehangu ei fusnes i’r Dwyrain Canol am y tro cyntaf eleni ar ôl diogelu contract gyda chymorth Llywodraeth Cymru, a disgwylir i werthiannau yn y rhanbarth gyrraedd $300,000 erbyn 2026. Bydd hyn yn agor ffrydiau refeniw newydd ar gyfer Eakin Surgical, gan ganiatáu i’w gynnyrch gael ei werthu ar draws UAE, Saudi Arabia, Oman, Bahrain a Qatar.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn nhwf allforion Eakin Surgical dros y pum mlynedd diwethaf. Mae’r cwmni wedi cael cymorth i ddatblygu cynllun allforio economaidd ac i glustnodi cwsmeriaid a dosbarthwyr posibl dramor. Maent wedi mynychu arddangosfeydd rhyngwladol hefyd yn rhan o deithiau masnach niferus Llywodraeth Cymru hefyd, gan gynnwys Arab Health yn Dubai, a Medica, arddangosfa feddygol fwyaf blaenllaw’r byd yn yr Almaen, yr arweiniodd y naill a’r llall at gaffael dosbarthwyr newydd.

Dywedodd Alana Rodgers, Pennaeth Gwerthu Eakin Surgical: “Doedd fawr ddim presenoldeb rhyngwladol gennym tan rhyw bum mlynedd yn ôl pan ddechreuon ni ymchwilio i’r cyfleoedd a allai godi o allforio. Nawr rydyn ni’n gweld allforio fel llwybr sy’n allweddol i dwf y busnes, ac yn sefydlu strategaeth i ehangu ein presenoldeb o fewn ein rhanbarthau cyfredol, fel Ewrop, wrth fentro i farchnadoedd buddiol newydd hefyd.

“Wrth edrych tua’r dyfodol, America Ladin yw’r ardal nesaf rydyn ni’n bwriadu mentro iddi, wedyn Asia. Rydyn ni wrthi nawr yn adeiladu ein portffolio ar gyfer America Ladin ac rydyn ni’n bwriadu defnyddio cymorth pellach a chymhorthdal gan Lywodraeth Cymru i ymweld â’r rhanbarth y flwyddyn nesaf  er mwyn helpu gyda’n hymchwil i’r farchnad.

“Heblaw am gymorth ymgynghorydd masnach Llywodraeth Cymru, fyddem ni ddim wedi gwybod am yr arddangosfeydd rhyngwladol rydyn ni wedi eu mynychu, sydd wedi chwarae rhan allweddol yn ein llwyddiant ac arwain yn uniongyrchol at fusnes newydd.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen