Mae Fifth Wheel Co. yn Rhuallt yn dylunio ac yn adeiladu carafanau teithio pumed olwyn moethus sy'n gwerthu am rhwng £70-120k, a elwir yn aml yn 'bentai ar olwynion'. 

Mae'r cwmni, sydd eisoes yn allforio i dros 15 o wledydd, gan gynnwys yr Almaen, Ffrainc, y Swistir, Norwy, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Seland Newydd, wedi gosod ei olygon ar gynyddu ei bresenoldeb byd-eang trwy ehangu yn Ewrop a thargedu Asia fel marchnad newydd.

O fewnforio i weithgynhyrchu

Sefydlwyd y cwmni teuluol 20 mlynedd yn ôl, ac ar y cychwyn roedd yn mewnforio cerbydau hamdden pumed olwyn o America, cyn troi at gynhyrchu cerbydau tebyg o ansawdd uwch yn ei ganolfan yn y gogledd. Erbyn hyn, y cwmni yw'r unig weithgynhyrchwr carafanau teithio pumed olwyn sy'n cydymffurfio â gofynion yr UE yn Ewrop.

Uchelgeisiau allforio uwch

Allforion sydd i gyfrif am 25% o fasnach y cwmni ar hyn o bryd, ac mae'r cwmni'n gobeithio dyblu'r ffigur yma i 50% dros y ddwy flynedd nesaf trwy ehangu ei rwydwaith o werthwyr ar draws y byd. Mae gan y cwmni werthwyr yn yr Almaen, Norwy a Ffrainc, ond y nod yw sicrhau pump arall ar draws Ewrop dros y ddwy flynedd nesaf, gan gynnwys Denmarc a Gwlad Pwyl, yn ogystal ag ail werthwr yn Ffrainc.  

Mae'n bwriadu mentro hefyd i diriogaethau eraill gan gynnwys Asia, ac mae'n cynnal trafodaethau â gwerthwr yng Nghorea hefyd.

Mae Dave Robinson, Rheolwr Dylunio Fifth Wheel Co. yn credu taw golygon rhyngwladol y cwmni sydd i gyfrif am ei dwf dros y ddau ddegawd diwethaf, yn ogystal â'i wytnwch yn ystod y pandemig. 

Dywedodd: "Mae allforio wedi darparu cyfleoedd di-ben-draw i ni dyfu, ac mae hyn wedi bod yn hanfodol wrth helpu i'n cynnal ni drwy'r pandemig. Cyn Covid, roedd y rhan fwyaf o'n sylfaen o gwsmeriaid yn y DU, ond ers y pandemig, fe ffeindion ni fod y farchnad ddomestig ar gyfer ein cerbydau’n ddisymud oherwydd cyfuniad o gyfnodau clo yn y DU a gwerth uchel ein cynnyrch. Roedd hi'n anodd cael cwsmeriaid i ymrwymo i brynu rhywbeth newydd pan nad oedden nhw'n gallu teithio i weld y cynnyrch oherwydd y cyfyngiadau – dim ond hyn a hyn y gallwch ei wneud wrth ddangos cynnyrch sy’n gwerthu am dros £70,000 yn rhithiol!

“Ond mae ein gwerthiannau o allforion wedi aros yn gadarn, yn enwedig yn yr Almaen – ein marchnad ryngwladol fwyaf – lle mae'r diwydiant hamdden wedi parhau i lewyrchu. Mae ein gwerthwr Almaenaidd wedi darparu busnes cyson ar ein cyfer dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae hynny wedi ein helpu ni i gadw i fynd.

"Trwy fod â gwerthwyr ar wasgar yn ddaearyddol, rydyn ni wedi sicrhau nad ydym ni'n dibynnu'n llwyr ar un farchnad yn unig".

Un peth sydd wedi bod yn hanfodol i dwf allforion Fifth Wheel yw cefnogaeth arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru, trwy Fusnes Cymru, wrth gyrchu cymorth ariannol a chynnig cyngor ar farchnadoedd a phartneriaethau posibl hefyd. 

Ychwanegodd Dave: "Darparodd tîm allforion Llywodraeth Cymru waith ymchwil cefndir ar werthwyr a busnesau oedd â diddordeb gweithio mewn partneriaeth â ni yn Fifth Wheel, a chynorthwyodd hyn ni i gyrraedd marchnadoedd newydd a chyflymu ein siwrnai allforio. Mae eu cefnogaeth wedi bod yn allweddol i'n strategaeth ryngwladol, a fyddem ni ddim wedi gallu bod lle'r ydym ni nawr heblaw amdani.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen