Mallows Beauty - Laura Mallows

Brand harddwch figan sy’n annog pobl i’w caru a’u derbyn eu hunain yw Mallows Beauty yng Nghaerdydd.

Sefydlwyd Mallows Beauty yn 2020, ac ers mynd yn firol ar TikTok gyda’i gynnyrch mewn pecynnau lliwgar fel y ‘Unicorn Shave Butter’ a’r ‘Pineapple Enzyme Peel Mask’ mae’r cwmni wedi denu llu o ddilynwyr.

Er na gychwynnodd y cwmni ei siwrnai allforio tan ddiwedd 2021, mae ei werthiannau rhyngwladol eisoes i gyfrif am draean o’i werthiannau, gyda’i gynnyrch yn cael ei werthu yn Iwerddon, Ewrop, UDA ac Awstralia ar hyn o bryd. Mae’r cwmni’n gobeithio dyblu’r ffigur yma dros y flwyddyn nesaf trwy ehangu ei rwydweithiau o ddosbarthwyr ar draws y byd, a chanolbwyntio ar gynyddu gwerthiannau yn UDA – sy’n farchnad darged bwysig iddo.

Mae’r cwmni’n bwriadu ehangu ei bresenoldeb yn UDA ar ôl diogelu ei gytundeb mawr cyntaf yn y rhanbarth gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Bydd hyn yn gweld chwech o gynhyrchion mwyaf poblogaidd Mallows Beauty’n cael eu gwerthu mewn 177 o siopau Urban Outfitters ar draws America, gydag archeb o 4,000 uned i gychwyn.

Ochr yn ochr â’r bartneriaeth hon, mae Mallows Beauty yn cynnal trafodaethau â chwmni dosbarthu sy’n gweithredu ar draws UDA a fyddai’n agor y drws ar filoedd o adwerthwyr annibynnol ledled y wlad. Mae’r cwmni wedi gosod ei olygon ar ehangu yn Awstralia hefyd, gan lansio ei gynnyrch gyda’r adwerthwr ar-lein blaenllaw, Glam Raider.

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan allweddol yn nhwf allforion Mallows Beauty. Mae’r cwmni wedi elwa ar ymchwil i’r farchnad wedi ei deilwra, a chymorth i glustnodi a sefydlu cyfarfodydd â chyflenwyr a dosbarthwyr, gan gynnwys y rhai y mae’r cwmni wedi llofnodi contractau â nhw yn ddiweddar yn UDA ac Awstralia. Ffactor allweddol arall yw bod y cwmni wedi cael cyngor arbenigol ar fasnachu, gan gynnwys dilysu cydymffurfiaeth ei gynhwysion er mwyn sicrhau bod ei gynnyrch yn bodloni’r rheoliadau ar gyfer marchnadoedd gwahanol wledydd tramor.

Dywedodd Laura Mallows, Sylfaenydd Mallows Beauty: “Mae ein siwrnai allforio wedi bod yn dipyn o gorwynt, gan chwarae rhan bwysig yn ein twf dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r galw rhyngwladol am ein cynnyrch wedi bod yn anferth, diolch i TikTok yn benodol, gyda phobl yn gofyn ymhle y gallan nhw brynu ein cynnyrch yn eu gwledydd nhw. Mae hi wedi agor byd o gwsmeriaid newydd i ni ac rydyn ni ar dân i werthu ein cynnyrch iddyn nhw.

“Mae UDA yn ardal lle rydyn ni’n arbennig o awyddus i ganolbwyntio ein hymgyrch gwerthu wrth i ni barhau i weld galw cynyddol am ein cynnyrch yno. Bydd y cytundeb newydd gydag Urban Outfitters, a diogelu dosbarthwr cenedlaethol, yn chwarae rhan annatod wrth ein helpu ni i gyflawni hynny.

“Pan cyflwynwyd y cyfle cyntaf i ni allforio, roedd hi’n teimlo mor llethol nes i ni wrthod y cyfle am nad oeddem ni’n gwybod ble i ddechrau a dweud y gwir. Roedd y gwahanol reoliadau mewn gwahanol farchnadoedd rhyngwladol a’r sialensiau logisteg sydd ynghlwm wrth allforio yn ein poeni ni.

“Mae gan gynnyrch gofal y croen a harddwch haen ychwanegol o gymhlethdodau wrth allforio am fod gan wahanol wledydd wahanol reoliadau masnachu, felly mae cymorth ein hymgynghorwyr allforio yn Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod o werthfawr, gan ein galluogi ni i addasu ein fformwlâu er mwyn sicrhau ein bod ni’n bodloni gofynion y gwahanol farchnadoedd rydyn ni’n allforio iddynt, sydd wedi agor drysau ar ddosbarthwyr posibl hefyd.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen