Clare Birt - Mangar Health

Mae Mangar Health, cwmni gweithgynhyrchu arobryn o Bowys, ar gychwyn ymgyrch allforio sylweddol yn rhan o'i strategaeth uchelgeisiol i sicrhau twf.   

Allforion sydd i gyfrif am un rhan o bump o werthiannau'r cwmni eisoes, ac maent wedi chwarae rhan allweddol wrth ei gynorthwyo i sicrhau trosiant o dros £10m, sy'n uwch nag erioed, dros y flwyddyn ddiwethaf. Nawr, mae Mangar am ddyblu ei refeniw allforio dros y tair blynedd nesaf a chynyddu ei bresenoldeb rhyngwladol trwy ehangu ei waith yn UDA a mentro i farchnadoedd Japan. 

Mae Mangar Health yn Llanandras yn cyflogi 72 o bobl. Mae'n arweinydd byd wrth ddylunio, gweithgynhyrchu a chyflenwi offer codi a symud chwyddadwy i helpu pobl anabl ac oedrannus â'u gofynion ymolchi. 

Mae'r cymhorthion, sy'n cynnwys teclynnau codi i'r bath, teclynnau clustog godi, a chlustogau codi mewn argyfwng, yn helpu gyda thasgau pob dydd fel mynd i mewn ac allan o'r gwely, a chodi unigolion sydd wedi syrthio.

Peiriannydd oedd wedi ymddeol o’r enw David Garman sefydlodd Mangar yn wreiddiol, a hynny nôl ym 1981. Roedd wedi bod yn chwilio am ffordd o helpu perthynas oedrannus iddo oedd yn cael trafferth mynd i mewn ac allan o'r bath. Ar ôl dyfeisio'r teclyn codi pŵer cyntaf i helpu pobl i mewn ac allan o'r bath, darganfu David yn gyflym bod yna alw anferth am yr offer yma, yn y DU a thramor, a ganwyd Mangar Health. Yn fuan iawn, dechreuodd y cwmni droi ei olygon at dramor.

Galw am y DU a thramor

Deugain mlynedd yn ddiweddarach, ac mae Mangar wedi dod â dros 40 o declynnau newydd i'r farchnad ac mae’n allforio i dros 14 o wledydd ar draws y byd. Gwerthiannau rhyngwladol sydd i gyfrif am bron i un rhan o bump o fasnach Mangar. America, Awstralia, Seland Newydd, Canada a gwledydd Ewrop yw marchnadoedd mwyaf y cwmni ac mae ganddo gleientiaid rhyngwladol allweddol fel Ambulance Victoria yn Awstralia, Gwasanaeth Ambiwlans Columbia Brydeinig a'r Groes Goch yn yr Almaen.

Yn y DU, mae offer Mangar i'w weld mewn miloedd o gartrefi gofal a lleoliadau preswyl preifat, ac maent yn cael eu defnyddio gan y gwasanaethau brys ym mhob awdurdod lleol ar draws y wlad. 

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru, a ddarperir trwy Fusnes Cymru, wedi bod yn allweddol i ymgyrch allforio llwyddiannus Mangar. Mae'r cwmni wedi cael cymorth gan Fusnes Cymru i gyflawni ymchwil i'r farchnad a dod o hyd i ddosbarthwyr mewn nifer o diriogaethau. Yn fwyaf diweddar, mae Mangar wedi diogelu contractau yn Ffrainc a'r Eidal ar ôl cael cymorth Busnes Cymru i glustnodi cyfleoedd busnes o fewn y rhanbarthau.   

Canolbwyntio ar ehangu allforio

Nawr, mae Mangar am gyflymu ei hwb allforio er mwyn sicrhau parhad twf y busnes, a'i nod yw dyblu i refeniw allforio i £2.5m dros y tair blynedd nesaf.

Mae'r cwmni am ehangu ei werthiannau cyfredol yn UDA trwy fentro i farchnad lewyrchus gofal iechyd i gyn-filwyr, sydd werth mwy na $250 biliwn y flwyddyn, ac wedi gosod ei olygon ar Japan fel ei farchnad darged nesaf.

Mae'r cwmni eisoes wedi cwblhau gwaith ymchwil cychwynnol i ddemograffeg a model iechyd Japan trwy raglen Datblygu Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru, a mynychodd deithiau masnach Llywodraeth Cymru ym mis Medi, lle daeth i gysylltiad â nifer o ddosbarthwyr posibl.

Dywedodd Clare Birt, cyfarwyddwr marchnata Mangar Health: "Am fod holl wasanaethau ambiwlans ac awdurdodau lleol y DU eisoes yn defnyddio ein cynnyrch, y cam rhesymegol nesaf oedd troi tua marchnadoedd rhyngwladol er mwyn parhau i dyfu fel busnes. 

“Mae allforion yn cynnig potensial mawr am fod pawb ar draws y byd i gyd yn wynebu’r un sialensiau sy’n dod yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, sef y sialensiau y mae ein cynnyrch yn mynd i'r afael â nhw. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi diwygio ein strategaeth allforio er mwyn targedu dosbarthwyr allweddol yn ein tiriogaethau, ac mae gennym gynlluniau cyffrous wrth edrych tua'r dyfodol, sef yn fwyaf nodedig mentro i’r farchnad gofal i Gyn-filwyr yn UDA a thorri cwys yn Japan – sy'n diriogaeth newydd i ni.

“Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn hynod o werthfawr wrth i ni ddatblygu ein strategaeth allforio, a bydd yn hanfodol wrth i ni fentro i Japan. Fe gymron ni ran mewn taith fasnach i'r wlad ym mis Medi, sydd wedi helpu i lywio ein strategaethau a'n cynlluniau ar gyfer y farchnad at y dyfodol.”

I gael rhagor o wybodaeth am Mangar Health, ewch i https://mangarhealth.com/uk/
 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen