My Salah Mat - Kamal Ali

Mae My Salah Mat, y cwmni o Gasnewydd sydd y tu ôl i fat gweddi rhyngweithiol cynta’r byd, wedi datblygu portffolio rhyngwladol helaeth ers ei sefydlu pedair blynedd yn ôl, ac erbyn hyn mae’n gwerthu ei gynnyrch mewn dros 25 o wledydd ar draws pedwar cyfandir.

Sylfaenydd y cwmni yw Kamal Ali, sy’n dad i ddau blentyn. Sefydlodd y busnes ar ôl sylwi bod ei fab yn cael trafferth gyda’i dechneg gweddïo. Gyda chefndir ym maes dylunio cynnyrch, aeth Kamal ati i lunio ateb i’r broblem, sef mat gweddi rhyngweithiol sy’n gweithio trwy dechnoleg cyffwrdd, sy’n dysgu’r gwahanol ystumiau Salah i’r plant, gan gynnwys ble i roi eu traed, eu pengliniau, eu dwylo a’u pen, a beth i’w ddweud yn y gwahanol ystumiau yma.

Ar ôl dwy flynedd o ddatblygu prototeipiau, lansiodd Kamal ei gynnyrch cyntaf yn 2018 a chafodd adolygiadau bendigedig. Ers hynny, mae My Salah Mat wedi gwneud enw iddo’i hun am ei gynnyrch ym mhedwar ban y byd, gyda chymorth 75 o ddosbarthwyr ac adwerthwyr rhyngwladol. Erbyn hyn allforion sydd i gyfrif am 40% o’i fusnes.

Dros y tair blynedd diwethaf, mae’r cwmni wedi gweld ei werthiannau yn y Dwyrain Canol yn cynyddu 15% ar ôl i’r mat i blant fynd yn feirol ar gyfryngau cymdeithasol y rhanbarth. Diolch i’w boblogrwydd, llwyddodd y cwmni i ddiogelu busnes gydag adwerthwyr rhyngwladol mawr fel Virgin Megastores yn UAE, a Dabdoob, sef un o adwerthwyr nwyddau plant mwyaf Kuwait. 

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i dwf a llwyddiant My Salah Mat. Mae’r cwmni wedi chwarae rhan yn rhaglen Datblygu Masnach Ryngwladol Llywodraeth Cymru, sy’n darparu cymorth wedi ei deilwra, gan gynnwys ymchwil i’r farchnad a datblygu strategaeth allforio, er mwyn helpu cwmnïau i fentro i farchnadoedd newydd. Mae’r cwmni wedi manteisio hefyd ar y rhaglen Cyfleoedd Masnach Rhyngwladol, sy’n helpu busnesau i glustnodi a meithrin cysylltiadau â darpar gwsmeriaid, ac yn darparu gwybodaeth am fasnachu ar lefel leol.

Mae’r ymchwil i’r farchnad a gyflawnodd Llywodraeth Cymru ar dueddiadau defnyddwyr ym Malaysia, y Dwyrain Canol ac India, wedi caniatáu i’r cwmni ddeall y gwahanol flaenoriaethau rhanbarthol, a sbardunodd hyn y cwmni i addasu’r mat i gynnig 20 iaith a chreu cynnyrch sydd wedi ei deilwra at anghenion marchnadoedd sy’n ddeniadol i’r cwmni at y dyfodol.  

Ochr yn ochr â’r rhaglenni hyn, mae My Salah Mat wedi mynychu teithiau masnach rhithwir wedi eu hariannu gan Llywodraeth Cymru i Qatar, UAE a Malaysia, sydd wedi ei gynorthwyo i gwrdd â chleientiaid newydd a phennu’r llwybrau gorau i dorri cwys yn y tiriogaethau hyn. 

Dywedodd Kamal Ali, sylfaenydd a dyfeisiwr My Salah Mat: “Mae allforio’n rhan sylweddol o’n busnes, ac mae hi wedi chwarae rhan allweddol yn ein twf dros y blynyddoedd diwethaf yma. Mae’r galw byd-eang am ein cynnyrch wedi bod yn anferth, wrth i rieni Mwslemaidd dros y byd i gyd chwilio am gymorth i ddysgu’r technegau gweddio cywir i’w plant. Mae hyn wedi agor y drws ar lwyth o gyfleoedd i ni gynyddu ein gwerthiannau.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi chwarae rhan fawr yn ein twf allforio. Mae cael gwell dealltwriaeth am sut mae ein marchnadoedd targed yn gweithredu a sut i fentro iddynt yn effeithiol wedi bod yn amhrisiadwy. Mae’r teithiau masnach rhithwir wedi caniatáu i ni ategu ein hygrededd a meithrin perthnasau â darpar-gwsmeriaid, gan ein helpu ni i gael gwell syniad o’r hyn y maent yn chwilio amdani a’n galluogi i sefydlu cyfleoedd busnes newydd.”


 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen