Mae RM Group, cwmni gweithgynhyrchu yn y Drenewydd, yn dylunio ac yn adeiladu peiriannau awtomatig a rhai sy’n cael eu gweithredu â llaw sy’n cael eu defnyddio wrth brosesu a phecynnu eitemau ar gyfer diwydiannau fel bwyd a diod, adeiladu, ynni, y cyfleustodau a diwydiannau cyffredinol.

Mae'r cwmni'n allforio’i gynnyrch i dros 15 o wledydd, gan gynnwys Gwlad yr Ia, Awstralia, Seland Newydd, Irac ac UDA.

Llwyddiant rhyngwladol

Ddechrau 2022, bydd y busnes yn agor ei swyddfa Americanaidd gyntaf yn Delaware, mewn ymateb i gynnydd mewn ymholiadau o UDA, a bydd hynny'n caniatáu i'r cleientiaid sy'n gweithio yno gael siarad â gwerthwyr ac ymgynghorwyr yn eu cylchfa amser eu hunain.

Mae’r ehangiad diweddaraf yma i farchnad UDA, lle mae galw am y cynnyrch wedi tyfu'n aruthrol, yn llwyddiant mawr i'r cwmni a ddechreuodd ei waith gweithgynhyrchu 10 mlynedd yn ôl. Mae hyn yn pwysleisio pa mor bwysig yw allforion i dwf y cwmni, am fod gwerthiannau rhyngwladol bellach yn cynrychioli 20% o'i fasnach.

Yn ogystal â recriwtio rheolwr datblygu busnes i gynorthwyo ag ehangiad y cwmni yn UDA, mae RM wrthi’n cyflogi rheolwr allforio a busnes penodol i’w gynorthwyo â’i nodau i symud i mewn i ragor fyth o diriogaethau newydd ar draws y byd, ar ôl i'r cwmni bennu targed uchelgeisiol i gynyddu allforion 50% dros y ddwy flynedd nesaf.

Cefnogaeth Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi helpu gyda llwyddiant allforio RM, trwy ddarparu cymorth ariannol i gynorthwyo'r cwmni i anfon cynrychiolwyr ar deithiau masnach, ac i gyflawni gwaith ymchwil manwl i diriogaethau newydd posibl – gan gynnwys UDA – er mwyn pwyso a mesur yr archwaeth ar gyfer ei gynnyrch. 

Bydd Llywodraeth Cymru'n helpu i ariannu costau cyflogi rôl rheolwr rhyngwladol newydd RM Group yn UDA hefyd.

Dywedodd Rosie Davies, Cyfarwyddwr Grŵp RM Group, bod amrywio ei fasnach ar draws gwahanol farchnadoedd rhyngwladol wedi helpu i sefydlogi ffrydiau incwm y busnes rhag ofn bod gostyngiad mewn rhanbarth penodol.

Dywedodd Rosie: "Ar ôl sefydlu ein busnes yn y DU, fe sylweddolon ni fod gennym fodel y gallem ei efelychu’n rhywle arall. Mae allforio'n darparu ffrwd refeniw arall i ni i’n galluogi i ategu sylfeini ein busnes a'i dwf. 

"Mae allforio'n cynnig sicrwydd i ni hefyd, oherwydd mae cael sylfaen amrywiol o gleientiaid ar draws gwahanol ranbarthau'n golygu os yw masnach yn gostwng mewn un diwydiant, y gallwn symud ymlaen a'n marchnata ein hunain mewn un arall."

Dywedodd Rosie: "Mae Llywodraeth Cymru wedi ein helpu ni i gynyddu ochr allforio ein busnes yn sylweddol. Efallai bod meddwl am allforio’n dychryn busnesau, ond mae masnachu ar y llwyfan rhyngwladol yn gallu dod â manteision aruthrol, a byddwn yn annog unrhyw fusnesau sy'n ystyried allforio i ymchwilio ymhellach i'r peth.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen