Nick Corlett - SteriTouch

Mae SteriTouch, cwmni cynhyrchion gwrth-ficrobaidd o dde Cymru, wedi datblygu sylfaen allforio cadarn i werthu ei gynnyrch i gwmnïau ym mhedwar ban y byd fel rhan allweddol o strategaeth dwf y busnes.

Gwerthiannau allforio sydd i gyfrif am fwy na hanner (52%) holl werthiannau SteriTouch, ac mae gan y cwmni gynlluniau i ehangu ei fusnes allforio yn rhan o’i strategaeth ehangach ar gyfer twf. 

Glyn Ebwy yw cartref SteriTouch, sy'n cyflogi 10 o bobl, ac mae’r cwmni’n gweithgynhyrchu’r araenau a’r ychwanegion gwrth-ficrobaidd  a geir mewn eitemau pob dydd sy'n dueddol o godi bacteria ac sy'n aml yn cael eu defnyddio gan sawl person gwahanol bob dydd, fel peiriannau sychu dwylo a theclynnau rheoli o bell. Caiff yr ychwanegion, sy'n cael eu defnyddio i atal traws-heintiad, eu hychwanegu at ddeunyddiau yn ystod y broses gweithgynhyrchu, ac maent yn gwneud y cynnyrch yn wrthfeicrobaidd am oes. 

Diddordeb o farchnadoedd tramor

Sefydlwyd y cwmni yn 2003, ac yn wreiddiol roedd yn canolbwyntio ar gynhyrchion gofal iechyd yn y DU, gan gredu taw'r sector honno oedd y sector amlwg ar gyfer amddiffyniad gwrth-ficrobaidd. Cyn pen dim, roedd y cynnyrch wedi dod i sylw meysydd eraill, gan gynnwys Mothercare, oedd yn chwilio am rywbeth a fyddai’n amddiffyn eu cadeiriau bwydo rhag bacteria. Am fod llawer o gwmnïau gweithgynhyrchu yn Tsieina, daeth allforio’n naturiol i SteriTouch am y byddai’n anfon y deunydd yn uniongyrchol at y gweithgynhyrchwyr. Tyfodd diddordeb yng nghyfleuster cyd-frandio SteriTouch, a dechreuodd ymholiadau ddod i mewn o wledydd eraill o amgylch y byd.  

Allforwyr sefydledig

Erbyn hyn, gwerthiannau allforio sydd i gyfrif am fwy na 52% o werthiannau SteriTouch, gyda'r cwmni'n partneru â chwmnïau rhyngwladol dros y byd i gyd i gyflenwi ei gynhyrchion atal afiechyd. Clustffonau Sennheiser o'r Almaen a pheiriannau sychu dwylo World Dryer o UDA yw dau o'r eitemau cyfarwydd sy'n cynnwys deunyddiau gwrth-ficrobaidd SteriTouch.

Ers sefydlu'r cwmni, mae SteriTouch wedi allforio i dros 25 o wledydd, ac mae marchnadoedd mwyaf y cwmni yn Tsiena, Awstralia, Canada, De Corea, Rwsia, Mecsico, Brasil a'r Unol Daleithiau. Mae allforio'n allweddol ar gyfer twf y cwmni.

Dywedodd Nick Corlett, Cyfarwyddwr Steritouch: "Cawsom ein denu at allforio gan ein cwsmeriaid yn wreiddiol, cwmnïau yn y DU a oedd yn trwyddedu’r brand SteriTouch ac yn defnyddio isgontractwyr gweithgynhyrchu yn y Dwyrain Pell. Byddai ein cwsmeriaid yn dweud wrth y gweithgynhyrchwyr eu bod am ddefnyddio ein deunyddiau, a byddai hynny'n ein galluogi ni i bennu telerau'r busnes, ac yn y mwyafrif o achosion, cael ein talu ymlaen llaw, sy’n beth da iawn i gwmni bach sydd ar dwf.

“Ers i SteriTouch ddechrau masnachu yn 2003, rydyn ni wedi gweld amrywiadau anferth yn y cyfraddau cyfnewid, ond ar gydbwysedd, mae gwendid y bunt wedi bod yn beth cadarnhaol dros ben i'n hallforion, naill ai wrth ein gwneud ni'n fwy cystadleuol, neu wrth gynyddu lled yr elw. Mae allforio'n gallu codi arswyd ar bobl, ac mae'r gofynion sydd ar allforwyr yn debygol o gynyddu, ond gyda'r cynnyrch iawn, mae hi'n amser gwych i fod yn gwerthu dramor.

"Trwy gydol y 15 mlynedd y mae’r cwmni wedi bod mewn busnes, mae hi wedi cael amrywiaeth o gymorth gan Lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru trwy Fusnes Cymru, o grant Sbardun bach yn fuan ar ôl i’r cwmni gychwyn yn 2003 i ariannu amddiffyniad ei nod masnach ryngwladol; sy’n hanfodol mewn marchnadoedd allforio, i ddyfarniad Smart Cymru yn fwyaf diweddar.”   
 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen