Fferm gynaliadwy arobryn yw Ystâd Rhug yng Nghorwen. Mae'n cynhyrchu ac yn gwerthu cig organig, ynni gwyrdd, ac yn fwy diweddar cynnyrch ffordd o fyw, ar ôl i'r cwmni lansio'i frand harddwch naturiol ei hun y llynedd gan ddefnyddio cynnyrch o'i ystâd.

Amrediad gofal croen moethus

Mae'r fferm eisoes yn allforio i naw o wledydd ar draws Ewrop, Asia, y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell, ac mae'n credu y bydd cyflwyno'i nwyddau gofal croen moethus yn tyfu ei allforion eto fyth ac yn datblygu ei enw da fel brand byd-eang.

Ag achau'n dyddio nôl i'r 11eg ganrif, daeth Rhug i feddiant Arglwydd Newborough ym 1998. Gwnaeth y penderfyniad i droi'r ystâd yn hollol organig â ffocws ar gynaliadwyedd. Dechreuodd adwerthu cig organig Rhug yn 2002 cyn allforio am y tro cyntaf yn 2006.

Dyfodol cyffrous i allforio

Allforion sydd i gyfrif am tua un rhan o bump o fasnach Rhug erbyn hyn. Rhagwelir y bydd y farchnad fyd-eang am gynnyrch gofal croen organig a naturiol yn dyblu dros y pum mlynedd nesaf, ac felly mae Rhug yn disgwyl i'r ffigur yna dyfu'n sylweddol dros y blynyddoedd sydd i ddod. Ei nod erbyn hyn yw i allforion gyfrif am hanner trosiant y cwmni erbyn 2026.

Ers cyflwyno cangen newydd y busnes, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru mae Rhug eisoes wedi diogelu sawl dosbarthwr ar adwerthwr yn y Dwyrain Canol – sy'n farchnad dwf allweddol i'r sector gofal croen – gan gynnwys Desert Fox yn Qatar, Harvey Nichols yn Doha a Secret Skin yn Dubai sy'n cwmpasu holl wledydd yr EAU.

Y nod nawr yw mentro i diriogaethau newydd gyda'i gynnyrch moethus, gan gynnwys yr Almaen, Rwsia a Japan, ac mae'r cwmni wedi cychwyn trafodaethau cynnar â dosbarthwyr yn y rhanbarthau hynny. 

Dywedodd Arglwydd Newborough, Perchennog Ystâd Rhug: "Mae cynaliadwyedd a chynhwysion organig, naturiol wedi bod wrth galon Rhug erioed, a nawr, gyda'n cynnyrch ffordd o fyw, gallwn helpu pobl i fod yn iach, ar y tu fewn a'r tu allan. Bydd cyflwyno gofal y croen a nwyddau i'r cartref yn ein cynorthwyo yn ein hymdrechion i ddod yn frand hollol fyd-eang hefyd. 

"Trwy beidio â chronni ein holl ymdrechion gwerthu yn y DU, a thrwy fod â phortffolio cymysg o gleientiaid mewn gwahanol farchnadoedd rhanbarthol, bu modd i'n busnes amrywio ac aros yn gadarn mewn cyfnod hynod o ymestynnol." 

Un peth sydd wedi bod yn hanfodol i dwf allforion Rhug yw cefnogaeth arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru trwy Fusnes Cymru, sydd wedi helpu'r busnes i gyrchu cymorth ariannol ac wedi cynnig cyngor ar farchnadoedd a phartneriaethau posibl hefyd. 

Ychwanegodd Arglwydd Newborough: "Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y cymorth a gawsom i'n helpu ni i dyfu ochr allforio ein busnes, o gymorth ariannol i gymorth i fynychu sioeau masnach, a chyngor ac arweiniad i ffeindio'n ffordd wrth ennill cytundebau allforio. Mae cymorth a chysylltiadau swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn Qatar, Dubai a Japan, wedi bod yn amhrisiadwy.”

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen