I gael cymorth neu gyngor busnes ffoniwch 03000 6 03000
Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
Rhowch ddisgrifiad bras o gefndir eich cwmni, a 'ch cynnyrch/gwasanaeth. Gall yr wybodaeth sy'n cael ei darparu am eich cwmni, eich cynnyrch/gwasanaeth a'ch amcanion gael eu cynnwys mewn llyfryn fydd yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo'r ymweliad o fewn y farchnad ac/neu at ddibenion eraill. Gofalwch fod y disgrifiad yn addas i'r farchnad rydych yn ymweld â hi a pheidiwch â defnyddio byrfoddau. Gallai rheolwr y daith gysylltu â chi am ragor o fanylion.
Er mwyn gwneud y gorau o'ch amser yn y farchnad, mae'n bwysig ichi baratoi mor drylwyr â phosibl. Os oes angen help arnoch, gall Tîm Cymorth Masnach Llywodraeth Cymru eich helpu â'ch paratoadau trwy ymchwilio i''r farchnad, cael hyd i gysylltiadau busnes posibl, trefnu''ch rhaglen ac ati.
Os hoffech ragor o wybodaeth bydd eich Rheolwr Datblygu Busnes (BDM) yn cysylltu â chi am y gwasanaethau sydd ar gael a'u cost. Cofiwch fod dyddiad cau ar gyfer rhai elfennau o'r cymorth hwn.
Os yw'n wahanol i'r cynrychiolydd/cynrychiolwyr, rhowch fanylion y person a ddylai dderbyn pob gohebiaeth ynghylch y daith fasnach hon
Rydym weithiau'n hyrwyddo'r daith a'r cwmnïau sy'n cyfranogi ar ein gwefan ac yn y wasg yng Nghymru a'r Farchnad. Nodwch a ydych yn fodlon i ni gynnwys eich cwmni yn y gweithgaredd hwn.
Pwysig: Dim ond tocynnau hedfan 'economi' a gynigir a bydd pob cynrychiolydd yn gyfrifol am bob cost ychwanegol gan gynnwys bwyd, mân gostau'r gwesty a thocynnau trosglwyddo yng Nghymru a Phrydain.
Mae’r cymorth a roddir gan y rhaglen hwn yn gymorth gwladol de minimus fel a ddiffinnir gan y Comisiwn Ewropeaidd. Ni ddylai dyfarniadau cymorth de minimus, o bob ffynhonnell gyhoeddus, fod dros 200,000 ewro o fewn unrhyw gyfnod ariannol o 3 blynedd. Os bydd y cwmni yn mynd dros yr uchafswm yna maent yn gyfrifol am unrhyw gamau o ganlyniad i hynny, gan gynnwys ad-dalu y cymorth a gafwyd.
It is important to recognise that the resources and effort which go into arranging these activities and the 'assistance' offered to participate companies are, in reality, a direct investment by the Welsh Government into Welsh companies. It is essential that the Welsh Government ensures that it invests wisely.
All participating companies need to demonstrate a clear commitment to maximise opportunities, either in terms of identifying and securing business, or in exploring market potential.
Llofnodwch eich cais yn ddigidol trwy glicio a thynnu eich llygoden yn y gofod isod