Cynllunio Busnes

Fel perchennog busnes, mae’n hanfodol bod gennych gynllun busnes gweithredol, realistig

Bydd yn eich cynorthwyo i edrych yn fanwl ar safle presennol eich busnes, a rhoi darlun clir i chi o’r hun yr ydych yn gweithio tuag ato.

Bydd ein Canllaw Cynllun Busnes yn dangos i chi sut i baratoi cynllun busnes o ansawdd uchel gan ddefnyddio nifer o gamau hawdd i'w dilyn.

Unwaith byddwch wedi cyfarwyddo eich hun gyda'r canllaw gellir dilyn ein templed i greu eich cynllun eich hun trwy ein Templed Cynllun Busnes. 

Efallai eich bod yn teimlo bod arnoch angen cyngor ychwanegol ynglŷn â chyfeiriad eich busnes at y dyfodol.  Gall mynychu un o’n Cymorthfeydd Adolygu Busnes eich cynorthwyo gyda hyn, a byddwch hefyd yn gwybod os a phryd fydd angen gofyn am arbenigedd proffesiynol allanol. 

Gellir cael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau a lleoliadau Cymorthfeydd Adolygu Busnes trwy gysylltu â'r Ganolfan Wasanaeth ar 03456 000 813.

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.