Cynllunio Olyniaeth

Dechreuwch y sgwrs

Y bygythiad hirdymor mwyaf i unrhyw fusnes fferm teuluol yw diffyg cynllun olyniaeth gadarn.

Mae’n ymwneud â’r cynllun hirdymor ar gyfer eich busnes ffermio - y ffeithiau, amcanion a’r modd i sicrhau’r canlyniad gorau i bawb dan sylw.                     

Yn syml, mae’n fwy na gwneud ewyllys!

Bydd eich cynllun olyniaeth yn unigryw i’ch busnes – nid oes ‘un math yn addas i bawb’.  Mae pob teulu yn wahanol, a phob busnes yn wahanol.  Yr hyn sydd bob amser yn bwysig yw fod pob teulu ffermio yn ystyried dyfodol y busnes ac yn cynllunio o flaen llaw ar gyfer pob sefyllfa – cyn gynted â phosib!

Pam fod angen cynllun olyniaeth arnoch?

Mae’r risgiau allweddol o beidio â chael cynllun o’r fath mewn lle yn cynnwys, er enghraifft:

  • aelodau’r teulu yn dadlau
  • goblygiadau ariannol anffafriol / effaith treth etifeddiaeth / treth enillion cyfalaf
  • straen a phryder, yn aml yn cyfuno â phoen meddwl a galar
  • colli cartref / bywoliaeth i aelodau’r teulu
  • effaith ar y fferm deuluol os caiff ei werthu, ei wahanu neu ei rannu

Gwasanaeth sydd ar gael:

Gwasanaeth Paru

Wedi ei ddylunio i baru ffermwyr a thirfeddianwyr sy’n barod i gamu’n ôl o’r diwydiant gyda newydd ddyfodiaid sy’n chwilio am gyfle i ddechrau ffermio. 

Cyfarfod Teuluol ar Olyniaeth

Cyfarfod teuluol dan arweiniad hwylusydd annibynnol, diduedd a chyfrinachol.

Pecyn adnoddau

Defnyddiwch ein pecyn adnoddau cyfleus i drafod a chofnodi’r materion sy’n berthnasol i’ch busnes er mwyn dechrau’r sgwrs.

Cymhorthfa un-i-un olyniaeth

Cyfarfod un-i-un gyda chyfreithiwr arbenigol wedi’i ariannu’n llawn.

Cyngor Busnes

Gall ffermwyr cymwys gael mynediad at gyngor busnes wedi’i ariannu hyd at 80% ar gyfer ceisiadau unigol.

Cyngor Cyfreithiol

Cyngor a gwasanaethau cyfreithiol i sefydlu menter ar y cyd a/neu gweithredu cynllun olyniaeth