Cynllunio Busnes ar gyfer Newydd Ddyfodiaid

Manteision ar gyfer eich busnes:

Yn debyg i’r cyngor sydd ar gael dan y categori Cynllunio Busnes (BP), mae’r categori hwn yn darparu cyngor cynllunio busnes cynhwysfawr sy’n cwmpasu’r fenter gyfan. Bydd y categori hwn yn rhoi darlun clir o broffil presennol eich busnes, gan feincnodi eich safle presennol. Byddwch yn deall eich cryfderau a’ch gwendidau ac yn gwybod beth y dylech fod yn anelu ato yn ymarferol er mwyn parhau i fod yn gynaliadwy, effeithiol a phroffidiol yn y blynyddoedd sydd i ddod. Mae’r categori hwn hefyd yn canolbwyntio ar anghenion a gofynion penodol newydd ddyfodiaid i’r diwydiant.