Prosesu Coed a Gwerth Ychwanegol

Manteision ar gyfer eich busnes:

Bydd y categori hwn yn darparu cefnogaeth fusnes i fusnesau coedwigaeth/ffermio sy’n dymuno prosesu coed un ai fel menter ychwanegol neu drwy arallgyfeirio i mewn i brosesu, contractio, tyfu a marchnata.

Bydd yn ymdrin â chynllunio ariannol yn ogystal â chynllunio busnes. 

Mae gan fusnesau 9 mis i gwblhau cyngor un-i-un a 12 mis i gwblhau cyngor grŵp, oni bai bod cais y grŵp yn cael ei gymeradwyo ar ôl 1 Chwefror 2022. Yn yr achos hwn, bydd y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r cyngor yn 31.01.2023.