Llio Morris

LLŶN AC ERYRI 


Llio Haf Morris yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Llŷn ac Eryri dros gyfnod mamolaeth Mali Dafydd.

Mae Llio yn ffermio gyda'i gŵr Elgan a’u dau o blant ar fferm denantiaeth bîff a defaid yn Cwmpenanner, ger Cerrigydrudion. Mae ganddynt ddiadell o ddefaid mynydd Cymreig a buches fach o wartheg sugno Henffordd pur.

Mae Llio yn weithgar iawn yn ei chymuned leol, yn gynghorydd ar Gyngor Cymuned Cerrigydrudion ac yn drysorydd Cylch Meithrin Cerrigydrudion. Roedd yn aelod brwd iawn o CFfI ble y buodd yn Aelod Hyn a Chadeirydd Sir Clwyd yn ogystal â chyflawni nifer o swyddi yn ei chlwb lleol, Clwb Uwchaled.

Ar ôl ennill gradd BSc mewn Amaethyddiaeth a Busnes o Brifysgol Aberystwyth, mae Llio wedi bod â diddordeb mawr mewn cynorthwyo ffermwyr gyda’u gwaith papur fferm ac mae hi wedi bod yn brysur yn gweithio iddi hi ei hun yn mynd o amgylch ffermydd yn eu cynorthwyo gyda’r gwaith papur. Ar ôl cael plant, aeth Llio i weithio at Gyfrifwyr Dunn & Ellis Cyf ym Mhorthmadog ac enillodd gymhwyster MAAT mewn cyfrifeg.

Nawr, mae wedi dod yn ôl i weithio yn y sector Amaethyddol gyda brwdfrydedd mawr i gynorthwyo ffermwyr Llŷn ac Eryri i gael cymaint o gymorth a chyngor a phosib i sicrhau bod eu busnesau yn perfformio ar eu gorau drwy fanteisio ar yr holl wasanaethau a phrosiectau sydd ar gael trwy Cyswllt Ffermio. Mae hyn yn bwysicach nag erioed ar hyn o bryd ac mae’n hanfodol bod yr holl ffermwyr yn manteisio ar holl wasanaethau Cyswllt Ffermio, sy’n amrywio o gynllunio ariannol a busnes, gwella ansawdd pridd ac iechyd anifeiliaid ynghyd â nifer fawr iawn o gyrsiau i gynyddu ac ehangu eich cymwysterau.

Mae Llio hefyd yn hwyluso grwpiau trafod sectorau bîff a llaeth. Mae'r rhain yn rhoi cyfle da i ffermwyr gymharu eu ffermydd â ffermydd eraill yn eu hardal leol i weld sut maent yn perfformio a beth y gellir ei wella, mae hefyd yn gyfle da i rannu syniadau a helpu ei gilydd drwy unrhyw broblemau sydd yn codi.

Felly, ffoniwch neu anfonwch neges ati ac mi fydd hi’n falch iawn i’ch cynorthwyo i gael y cymorth sydd ei angen arnoch.