Hannah Wright

CYMOEDD DE CYMRU A BRO MORGANNWG


Hannah Wright yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer rhanbarth De Cymru, sy’n cynnwys Gŵyr, cymoedd y de ddwyrain, a Bro Morgannwg.

Mae gan Hannah radd BSc (Anrhydedd) dosbarth cyntaf mewn amaethyddiaeth o Goleg Sir Gâr a phrofiad blaenorol o weithio ar ffermydd mawr yn Seland Newydd a’r Alban, ac mae hi’n cyfuno ei rôl gyda Chyswllt Ffermio ag ochr ymarferol ffermio. Yn ystod blynyddoedd diweddar, mae hi wedi dod yn gyfrifol am redeg mân-ddaliad y teulu yn y Gŵyr. Mae hi’n bwriadu ehangu maint ei diadell o ddefaid Llŷn pur, gan ddatblygu statws eu hiechyd. 

“Fy rôl gyda Chyswllt Ffermio yw cyfeirio ffermwyr at ystod eang o wasanaethau busnes, technegol a datblygiad personol, a bydd gweld busnesau yn elwa o’n cymorth yn werth chweil i mi.  

“Gall gwasanaethau megis y Gwasanaeth Cynghori, hyfforddiant a mentora un-i-un ddylanwadu’n enfawr, ac rwyf hefyd yn cynorthwyo llawer o ffermwyr sy’n benderfynol o ddatrys eu heffaith ar yr amgylchedd a lleihau eu hôl troed carbon.

"Trwy wneud defnydd o’n hadnoddau, gallant roi dulliau mwy effeithlon o weithio ar waith, a bydd hynny’n eu galluogi i gyfrifo eu hôl troed carbon a gweithredu i sicrhau eu bod yn ffermio’n gynaliadwy, a’u bod yn rhan o’r ateb i heriau’r newid yn yr hinsawdd.  

“Byddaf hefyd yn cynghori llawer o fusnesau i gyfranogi yn ei brosiect Rhagori ar Bori, sy’n cynorthwyo i wella systemau pori a lleihau costau gwrteithiau a dwysfwydydd a brynir, gan arwain at gynyddu deilliannau a da byw sy’n perfformio’n well. 

"Er fy mod yn gweithredu mewn ardal ddaearyddol fawr, â’r ffocws pennaf ar ffermio gwartheg bîff a defaid, mae’r rhanbarth hwn hefyd yn denu nifer o fusnesau twristiaeth a gwledig eraill, sy’n golygu fod bywyd yn ddiddorol! 

“Gall gwneud defnydd o’r gwasanaethau y mae arnoch eu hangen (mae’r mwyafrif ohonynt wedi’u hariannu’n llawn neu eu cymorthdalu’n sylweddol) helpu i sicrhau fod eich busnes yn fwy proffidiol, yn fwy cydnerth ac yn fwy cynaliadwy yn yr hinsawdd economaidd heriol sydd ohoni.”

Mae Hannah hefyd yn arwain grwpiau sy’n trafod pynciau penodol yn ei hardal, gan gydweithio’n agos â milfeddygon lleol a chynghorwyr busnes i wella perfformiad a deilliannau ar gyfer aelodau’r grwpiau.