Pam fyddai Alwyn yn fentor effeithiol

  • Mae Alwyn yn rheolwr coedwigaeth sy’n cynghori tirfeddianwyr ynglŷn â rheolaeth coetir ar  gyfer rheoli stadau mewn modd cynaliadwy. Mae’n eu cynorthwyo i baratoi cynlluniau rheoli fel rhan o reolaeth economaidd cyffredinol y fferm i ddarparu rhagolygon llif arian ac yn cynghori p’un ai y gallant gael mynediad at gymorth ariannol ai peidio.
  • Dechreuodd Alwyn ei yrfa fel gweithiwr coedwigaeth ac fe dreuliodd ddwy flynedd gyda chriw torri coed. Cwblhaodd hyfforddiant yn yr ystod lawn o sgiliau coedwigaeth, gan gynnwys torri a phlannu coed, gan roi dealltwriaeth lawn iddo o’r agweddau ymarferol sy’n ymwneud â rheoli coetiroedd.
  • Mae Alwyn yn credu’n gryf mewn annog unigolion i ddatblygu eu hystod sgiliau ac ennill cymwysterau ffurfiol. Mae wedi mentora a chefnogi myfyrwyr YTS ac eraill i ennill cymwysterau CGC (NVQ), gan weithio gyda darparwyr hyfforddiant i sicrhau bod yr hyn a gynigwyd gan y cwrs wedi’i lunio neu ei addasu i ateb gofynion a gallu’r hyfforddai.
  • Yn ystod ei yrfa, mae Alwyn wedi gweithio gydag ystod o gleientiaid yn darparu prosiectau rheolaeth wledig, gyda chefnogaeth cyngor amgylcheddol eang. Yn y swyddi hyn, bu Alwyn yn rheoli cyllidebau cynnal a chadw gwledig ac yn adrodd ar lif arian, gan ddefnyddio technegau dadansoddi cost a budd. Mae’r math hwn o agwedd dadansoddol o ran penderfynu pa brosiectau ddylai barhau yn ddefnyddiol iawn yng nghyd-destun mentora gan ei fod yn annog gwerthusiad beirniadol ac mae wedi defnyddio hyn i gefnogi ffermwyr o ran gwneud ceisiadau am grantiau busnes. 
  • Mae wedi parhau i ddatblygu ei ddealltwriaeth broffesiynol , gan sicrhau statws coedwigwr siartredig a thrwy astudio cwrs gradd ôl-raddedig mewn Rheolaeth Amgylcheddol.
  • Fel Prif Goedwigwr y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghymru, bu Alwyn yn gyfrifol am dîm o weithwyr wedi’u cyflogi’n uniongyrchol, staff proffesiynol a myfyrwyr, yn cefnogi eu datblygiad personol a phroffesiynol.
  • Ers gadael y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2010, mae Alwyn wedi gweithio fel ymgynghorydd coedwigaeth hunangyflogedig. Mae wedi paratoi ceisiadau Glastir Coetir ar ran tirfeddianwyr preifat ac wedi bod yn gyfrifol am gydlynu gweithgareddau coedwigaeth cyffredinol, yn unol â pholisi’r Gyfarwyddiaeth Iechyd a Diogelwch, gan gynnwys casglu gwybodaeth am beryglon ar y safle ac o gwmpas ardal gwaith y goedwig.
  • Fel Rheolwr Cytundebau Glastir Coetir, bu Alwyn yn annog ymgeiswyr posib i ymuno â’r cynllun trwy egluro’r materion technegol yn ymwneud â rheolaeth coetir, gan gefnogi datblygiad eu dealltwriaeth o reolaeth coetir.
  • Mae Alwyn hefyd wedi cwblhau hyfforddiant archwilio 'Grown in Britain' yn edrych ar gyfleoedd arallgyfeirio posib a geir o reolaeth coetir trwy ychwanegu gwerth o fiomas a masnach carbon hyd at y Cod Carbon. Mae ei barodrwydd i edrych ar fentrau newydd yn cefnogi ei allu i ddarparu cyngor i gwsmeriaid.
  • Mae gan Alwyn ddealltwriaeth ymarferol o Gymraeg llafar ac ysgrifenedig

Busnes coedwigaeth presennol

  • 28 hectar o Goetir Fferm gan dorri ac ail blannu gyda choed llydanddail cynhenid
  • Cynaeafu wyth hectar o gynaeafu coed ar gyfer biomas diwastraff dan y Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy
  • 15 hectar dan y cynllun Creu Coetiroedd Newydd – Cynlluniwr Rheoli Glastir ar gyfer saith safle 

Cymwysterau/ cyraeddiadau / profiad

  • Gweithiwr Coedwig 1978-1980
  • OND Coedwigaeth 1983
  • Coedwigwr i’r Comisiwn Coedwigaeth 1983–1991
  • Coedwigwr  y Weinyddiaeth Amddiffyn 1991-2010
  • Coedwigwr Siartredig 1998
  • MSc Rheolaeth Amgylcheddol Integredig 2001
  • Ymgynghorydd Coedwigaeth Hunangyflogedig 2010 – Presennol (gan gynnwys cytundeb 18 mis gyda Llywodraeth Cymru fel Rheolwr Cytundebau Coedwigaeth Glastir)
  • Hyfforddiant Archwiliwr Grown in Britain 2014

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Ceisiwch edrych ar eich busnes rheoli coetir o’r tu allan, ar yr hyn y mae’n ceisio ei ddarparu i’r farchnad, a’i safle yn y busnes fferm integredig. Yna byddwch yn barod i newid y ffordd y caiff y gwasanaethau hyn eu darparu, fel bod y busnes yn aros yn gynaliadwy ac yn ei ariannu ei hun.”

“Fel arfer, gallwch feddwl am ffyrdd i wneud mân newidiadau yn y ffordd yr ydych yn rhedeg eich busnes, sy’n gallu cynnwys datblygu sgiliau newydd a all arwain at welliannau mawr dros amser.”