Pam fyddai Barbara yn fentor effeithiol

  • Nid yw Barbara o gefndir amaethyddol, ond mae hi wedi breuddwydio am fod yn ffermwr erioed. Erbyn hyn, mae’n berchen ar fferm laeth 222 erw gyda’i gŵr Derek. Fe wnaethon nhw ddechrau drwy rentu Fferm 36 erw gan y Cyngor ym 1984, gan gyrraedd y brig o flaen 65 o unigolion eraill i dderbyn y contract. Gan fod ei gŵr yn gweithio oddi ar y fferm, bu Barbara yn ffermio wrth fagu tri o blant. Pump neu chwe blynedd yn ddiweddarach, llwyddodd i gael tenantiaeth ar fferm 135 erw arall yn yr ardal, a bu’n defnyddio’r fferm honno i gynhyrchu silwair. Ym 1994, cafodd newyddion syfrdanol y byddai carchar yn cael ei adeiladu ar eu fferm a oedd yn berchen i’r cyngor sir, a bu’n rhaid iddynt ganfod fferm arall. Dyma sut y daethant ar draws Ivy House. 70 erw oedd y fferm yn wreiddiol, ond maen nhw bellach wedi prynu tir o’i chwmpas ac mae’r fferm erbyn hyn yn ymestyn dros ardal o 220 erw.
  • Roedd Barbara bob amser dan yr argraff bod angen i chi gael eich geni i’r diwydiant amaeth er mwyn bod yn ffermwr, a bu’n benderfynol o ddilyn ei breuddwyd a phrofi nad oedd hynny’n wir. Ar ôl gadael yr ysgol, bu’n astudio coginio ym Mhrifysgol Glyndŵr cyn derbyn ei swydd gyntaf yn coginio yng Ngholeg Llysfasi. Ar ôl camu i mewn i’r byd amaeth, aeth yn ei blaen i astudio nifer o gyrsiau amaethyddol yr ATB, lle bu’n dysgu ffermio. 35 mlynedd yn ôl, cwblhaodd Barbara gwrs AI, ac fel yr unig fenyw ar y cwrs, dywed mai dyma uchafbwynt ei gyrfa fel ffermwr.
  • Yn 2010, penderfynodd Barbara arallgyfeirio i gynhyrchu pwmpenni ar gyfer Calan Gaeaf. Gan ddefnyddio cae gwag a gwybodaeth oddi ar y we, aeth Barbara ati i lwyddo gyda’r fenter. Mae’r cae pwmpenni ar agor yn ystod mis Hydref, a gall cwsmeriaid alw heibio i ddewis eu pwmpenni eu hunain. Mae crefftau hefyd ar gael ar gyfer plant, ynghyd â chaffi a drysle ar thema Calan Gaeaf.
  • Gwelodd Barbara fod hysbysebu’r fenter newydd yn ddrud yn y lle cyntaf, ond ers agor y fenter, mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd. Erbyn hyn mae’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol yn bennaf i hyrwyddo ei busnes. Mae’r busnes erbyn hyn wedi datblygu 11 mil o ddilynwyr ar Facebook! Mae Barbara hefyd yn credu mai argymhellion personol yw’r adnodd marchnata gorau ar gyfer unrhyw fusnes.
  • Penderfynodd arallgyfeirio’r busnes eto yn 2019 gyda menter pigo eich ffrwythau eich hunain yn tyfu mefus, a bydd yn agor i’r cyhoedd yn 2020. Mae’r caeau mefus ar hyn o bryd yn cynnwys dwy erw o fefus cynnar, un erw o fefus canol tymor ac un erw o rywogaeth hwyr yn y tymor. Dywed Barbara ei bod yn dal i ddysgu ac arbrofi i weld beth sy’n gweithio orau.
  • Mae gan Barbara brofiad mewn sawl maes ac mae’n mwynhau cwrdd â phobl a rhannu ei phrofiadau. Mae hi’n wrandäwr da, ac yn gallu darparu barn neu safbwynt di duedd yn seiliedig ar ei gwybodaeth a’r profiad personol. Mae hi hefyd yn deall yr heriau sy’n wynebu ffermwyr bob dydd a’r effaith posibl ar eu hiechyd meddwl.

Busnes presennol

  • Yn berchen ar 222 erw ac yn rhentu 22 erw
  • Buches laeth 140 o wartheg (Friesian yn bennaf gyda rhai croesiadau Shorthorn a Jersey), gan werthu llaeth i Arla
  • Parlwr godro 24:24
  • Cyflogi dau berson i odro dros dro ar hyn o bryd
  • Cae pwmpenni 4 erw
  • 3 erw o fefus ar gyfer menter pigo ffrwythau eich hunain

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • 1976: Coginio, Prifysgol Glyndŵr
  • 1979: Cyrsiau Amaethyddol ATB gan gynnwys ŵyna, trimio traed, cneifio ac AI.
  • 2004 - 2016: Cadeirydd Llaeth Cenedlaethol, Undeb Bwyd a Ffermio’r Menywod
  • 2011: Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn NFU yng Nghymru
  • 2019 – presennol: Cadeirydd, Pwyllgor Codi Arian CAFC

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Os oes gennych chi freuddwyd, gweithiwch i’r gwireddu. Gydag uchelgais, agwedd benderfynol a gwaith caled, gallwch gyflawni unrhyw beth.”