Pam fyddai Dafydd yn fentor effeithiol

  • Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae Dafydd wedi bod yn datblygu ac yn ehangu ei fferm ac mae wedi creu system organig effeithiol sy’n defnyddio glaswellt a meillion coch a gwyn i gynhyrchu cig oen a chig eidion o’r ansawdd gorau, gyda chostau cynhyrchu mor isel â phosib, ar gyfer marchnadoedd premiwm
  • Mae wedi datblygu system ffermio ucheldir gyda gofynion isel o ran llafur o ganlyniad i ddyluniad adeiladau a mannau trin anifeiliaid, technoleg, llai o fewnbynnau, a dulliau syml ac effeithiol yn gyffredinol
  • Am gyfnod bu ei fferm yn fferm ddatblygu   ar ran Waitrose/IBERS, yn ymchwilio i brotein a dyfir gartref. Yn ystod y pum  mlynedd ddiwethaf, mae’r fferm wedi cyrraedd y targed o fod yn 100% hunan gynhaliol o ran protein
  • Mae gan Dafydd dros ugain mlynedd o brofiad o dyfu gwndwn aml-rywogaeth, sydd wedi cynyddu lefelau protein mewn gwyndonnydd a silwair, yn ogystal â pherfformiad anifeiliaid, iechyd anifeiliaid ac iechyd y pridd
  • Mae gwartheg bîff a defaid yn cael eu defnyddio fel adnodd pori i sicrhau parhad meillion gwyn yn y gwndwn, defnydd ac ansawdd y glaswellt, a rheolaeth chwyn naturiol
  • Dros y pum mlynedd diwethaf mae’r ddiadell sy’n ŵyna ym mis Mawrth, gyda chanran sganio o 160%, wedi cael eu magu heb ddwysfwyd, yn dibynnu ar laswellt gaeaf, silwair meillion coch a glaswellt gwanwyn o ansawdd uchel. Mae hyn wedi arwain at allu gwerthu 30% o’r ŵyn yn dew ym mis Mehefin
  • Mae’r gwartheg bîff Hereford croes yn cael eu pesgi’n bennaf ar wyndonnydd meillion gwyn a choch yn 18-25 mis oed, gan weld cynnydd pwysau byw dyddiol o 1.6kg ar gyfnodau allweddol
  • Storio a rheoli tail yn effeithlon er mwyn gwneud y gorau o’r maethynnau yn ogystal â helpu i gynnal ansawdd dŵr da ar y fferm. Mae Dafydd wedi gwneud sawl newid ar ei fferm er mwyn sicrhau glendid dŵr yn cynnwys ffensio tir yr afon, adeiladu pontydd, manteisio ar borfa’r gaeaf a sefydlu ffyrdd caled ar hyd y fferm.
  • Mae Dafydd wedi plannu ugain mil o goed ar fferm, mewn gwrychoedd ac ardaloedd llethrog, er mwyn creu bioamrywiaeth, cysgod, a sicrhau bioddiogelwch.
  • Mae hefyd yn profi pridd yn rheolaidd er mwyn gwneud y gorau o’i fferm organig. 
  • Mae Dafydd wedi cynnal diwrnodau agored ar ran Cyswllt Ffermio, NSA, Waitrose, IBERS, Cymdeithas Tir Glas Prydain, Cynhadledd Tir Glas Ewropeaidd, ymweliad gan y Tywysog Charles, ac ymweliadau gan grwpiau o ffermwyr o Gymru a thu hwnt dros y blynyddoedd diwethaf 
  • Gall Dafydd gynnig cefnogaeth ar y rheoliadau llygredd amaethyddol newydd.

Busnes fferm bresennol

  • Fferm ucheldir organig 190 hectar, yn codi o 50 medr i 300 medr uwch lefel y môr
  • 70 o fuchod sugno Limousin croes wedi’u croesi gyda tharw Hereford i’w magu, ac yn anelu at besgi popeth oddi ar laswellt. Mae’r heffrod yn cael eu cadw fel anifeiliaid cyfnewid
  • 800 o ddefaid Texel croes i gynhyrchu ŵyn tew. Mae’r ŵyn yn cael eu pesgi ar y fferm ar laswellt a meillion o fis Mehefin hyd fis Hydref

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

  • Gwobr Syr Bryner Jones CAFC am gynnydd mewn busnes fferm a chyraeddiadau CFFI 2003
  • Pencampwr Carcas Waitrose/Dovecote Park 2005 
  • Gwobr Adeiladau Fferm CAFC 2006
  • Cystadleuaeth Ffermio Glaswelltir CAFC 2014
  • Ffermwr Glaswelltir y Flwyddyn, Cymdeithas Tir Glas Prydain 2014
  • Cynhyrchwr Cig Oen y Flwyddyn Waitrose/Dalehead 2014. Enillodd ymweliad i astudio amaethyddiaeth yn Seland Newydd
  • Rownd derfynol yng Nghystadleuaeth Ffermwr Defaid y Flwyddyn y Farmers Weekly 2017
  • Aelod o Raglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio 2019
  • Aelod o Fwrdd Rheoli Sioe Frenhinol Cymru
  • Cadeirydd Ffederasiwn Cymdeithasau Tir Glas Cymru 

 

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Mae’n bwysig i bobl ifanc gymryd cyfrifoldeb, a manteisio ar bob cyfle i reoli, addasu a newid cyfeiriad eu busnes o’r blynyddoedd cynnar, i gyflawni eu nodau yn y pen draw.”

 

“Deall, gwerthfawrogi a chymryd rhan gyda’ch marchnad. Byddwch yn barod i fod yn agored, ac i addasu i arferion cyfnewidiol y cwsmer a gofynion y farchnad.”