Pam fyddai David yn fentor effeithiol 

  • Mae David yn ffermio ac wedi arallgyfeirio ei fusnes fferm sydd wedi’i lleoli i’r dwyrain o Gaerdydd. Mae’n ffermio cyfanswm o 300 erw ac mae ganddo 200 erw o dir âr nad yw’n cael ei drin o gwbl; priddglai tywodlyd sy’n draenio’n rhydd yw’r tir hwn yn bennaf ac fe’i ffurfiwyd o falurion rhewlifol caregog. Mae’r fferm hefyd yn cynnal diadell fach o ddefaid ac mae wedi arallgyfeirio i dyfu coed Nadolig, gosod ysguboriau preswyl a chynhyrchu digon o egni adnewyddadwy o dyrbinau gwynt a pharciau solar preifat i gyflenwi 500 o gartrefi. Gyda dros 15 mlynedd o brofiad o sefydlu a rheoli prosiectau arallgyfeirio, gall David gynnig arweiniad i’r rheini sy’n ystyried arallgyfeirio eu busnesau. 
  • Arferai’r fferm ddibynnu ar gynhyrchu caeau o lysiau i gyflenwi marchnadoedd cyfanwerthu lleol ond bellach defnyddir y tir ar gyfer cnydau cyfunadwy, coed Nadolig ac fel tir pori i rywfaint o ddefaid. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r tir wedi cael ei weddnewid drwy symud o system amaethu bas i fras-droi’r tir. Tyfir gwenith, ceirch a chnwd toriad, a oedd yn cynnwys had llin y gaeaf eleni.
  • Yn 2008, penderfynodd David ddechrau tyfu coed Nadolig ac ar ôl 10 mlynedd o chwynu, dyfrio a thocio, mae bellach yn gwerthu’r coed yn uniongyrchol o’r fferm. Ar hyn o bryd mae’r fferm yn gwerthu tua 1,000 o goed y flwyddyn, ac mae 3,000 o goed yn cael eu plannu bob blwyddyn er mwyn cynllunio ar gyfer ehangu yn y dyfodol. Mae David bob amser yn chwilio am gyfle i wella ei wybodaeth a’i brofiad yn y maes a theithiodd i Iwerddon a Denmarc yn 2019 fel rhan o raglen Cyfnewidfa Rheolaeth Cyswllt Ffermio i ddysgu rhagor am dechnegau rheoli coed a chynhyrchu Ffinidwydd Urddasol. Mae’n awyddus i rannu ei wybodaeth am y maes gyda ffermwyr eraill yn y diwydiant.
  • Mae gan David brofiad helaeth o’r sector egni adnewyddadwy. Mae David yn berchen ar ei gwmni egni adnewyddadwy ei hun sy’n darparu digon o egni o’r gosodiadau gwynt a solar a godwyd ar ei fferm i gyflenwi 500 cartref. Mae’r gosodiadau hyn yn cynnwys tyrbin gwynt a phaneli solar mewn caeau ac ar doeau. David oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r holl waith o ddatblygu’r prosiect felly mae ganddo wybodaeth am y broses gyfan, o’r camau cynllunio ac adeiladu i’r camau gweithredol a chyllid. Mae David hefyd yn gyfarwyddwr cwmni cymunedol nid er elw sydd wedi dod â gwasanaeth band eang 1gb cyflym iawn i dros 200 o gartrefi yn yr ardal.
  • Gyda’i sgiliau cyfathrebu a gwrando gwych, gall David fod yn gyfrwng cyfathrebu ar gyfer y rheini sy’n ystyried symud eu busnesau yn eu blaen.

Busnes presennol y fferm

  • 300 erw 

  • 18 erw o dir yn tyfu coed Nadolig 

  • 200 erw o dir âr yn tyfu cnydau grawn

  • 5 erw o berllannoedd afalau seidr

  • 40 erw o dir ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Lefelau Gwent yng Nghynllun Glastir Uwch 

  • Systemau adnewyddadwy yn cynnwys tyrbin gwynt 330kw ac 1.8mw o baneli solar mewn cae 

  • 50 o famogiaid

  • Ysguboriau wedi’u haddasu sy’n cael eu gosod fel llety tymor byr
     

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • 1979-82: OND mewn Amaethyddiaeth, Coleg Brynbuga
  • bron i 40 mlynedd o brofiad fel partner yn fy musnes.
  • 2019: Cynllun Cyfnewidfa Rheolaeth, Cyswllt Ffermio

Awgrymiadau er mwyn llwyddo ym myd busnes:

1.    “Mae gan bob busnes set unigryw o amgylchiadau; mae eich sefyllfa chi yn wahanol i sefyllfa’r rhai o’ch cwmpas felly peidiwch â dilyn yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud.”

2.    “Peidiwch â rhuthro i fentro – ystyriwch pob posibilrwydd a gofynnwch am gyngor da. Bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi arallgyfeirio yn ddigon hapus i’ch helpu, ond bydd yn rhaid i chi dreulio oriau lawer yn gwneud eich gwaith ymchwil eich hun. Mae’r rhyngrwyd yn anhepgor.”

3.    “Gwnewch yn siŵr fod gennych berthynas dda gyda’ch cyfrifwyr, rheolwr banc a chyfreithiwr. Gwnewch yn siŵr eu bod oll yn deall ffermio ac yn eich adnabod chi, eich teulu a’ch busnes yn dda.”

4.    “Mae’n rhaid i chi fwynhau’r newidiadau rydych yn eu gwneud i’ch busnes a does dim rhaid iddynt fod yn rhai amaethyddol neu ar fferm.”