Pam fyddai Gareth yn fentor effeithiol

  • Mae Gareth yn llysgennad brwd dros ddatblygiad personol a busnes, gan ddweud bod ei gysylltiadau gyda Chyswllt Ffermio wedi gwneud gwahaniaeth mawr i’r ddau yn ystod y blynyddoedd diwethaf
  • Daeth yn ymwybodol o bwysigrwydd cynllunio olyniaeth yn ystod ei amser fel aelod o Raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn 2017. Hebddo, dyweda bod teuluoedd yn rhoi eu hunain dan bwysau ariannol anferth gydag oblygiadau sylweddol o ran iechyd meddwl a pherthnasau teuluol ac mae’n awyddus i rannu ei brofiad gydag eraill sydd angen ‘dechrau’r sgwrs olyniaeth’
  • Fel Arweinydd Agrisgôp yn Sir Maesyfed, creda Gareth fod ganddo’r sgiliau mentora a hwyluso anghenrheidiol i wrando a chynnig arweiniad yn seiliedig ar ei brofiadau ef fel ffermwr a dyn busnes
  • Mae hefyd yn aelod brwd o grŵp trafod Cyswllt Ffermio ac yn gadeirydd ei gymdeithas bori leol yn ogystal â’r sioe leol. Mae’n priodoli’r ddwy rôl gadeirio i’r hyder a ennillodd trwy’r Academi Amaeth ac mae’n awyddus i annog eraill i fanteisio ar yr holl gefnogaeth sydd ar gael

Busnes fferm presennol

  • Fferm tir glas 220 erw, a 75 erw o dir glas a gaiff ei rentu ar gytundeb tenantiaeth sefydlog
  • Lleolir yr holl dir mewn Ardaloedd Llai Ffafriol (LFA)

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

Ar ôl gadael Ysgol Uwchradd Llandrindod, mynychodd Gareth Goleg Amaeth Cymru yn Aberystwyth cyn dychwelyd adref i ffermio’n llawn amser.

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Byddwch yn bositif ac edrychwch am ddatrysiadau nid problemau”

“Siaradwch â rhywun sydd wedi bod trwy’r un peth.”