Pam fyddai Glyn yn fentor effeithiol

  • Arferai Glyn weithio fel hyfforddwr ATB Landbase/Lantra yn arbenigo mewn gyrru tractor a gyrru tractor ar lethrau ac mae wedi mynychu sawl cwrs hyfforddi Cyswllt Ffermio yn cynnwys hyfforddiant telehandler
  • Gyda mwy na 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn amaethyddiaeth a thrin amrywiaeth o beiriannau fferm mewn modd effeithiol a diogel, mae Glyn yn awyddus i rannu ei wybodaeth gyda busnesau fferm eraill mewn ymdrech i wneud ffermydd Cymru’n fwy diogel a lleihau perygl damweiniau
  • Mae Glyn yn gyfathrebwr effeithiol, sgil a ennillodd o ddelio gydag unigolion a grwpiau yn ei swyddi blaenorol. Mae’n wrandäwr da, gan annog trosglwyddo gwybodaeth trwy drafodaethau agored a chynnig adborth diduedd
  • Yn ddiweddar fe drefnodd gystadleuaeth ‘Effeithiolrwydd a Diogelwch’ CFfI Ceredigion
  • Mae hefyd yn gynrychiolydd ar fwrdd materion gwledig NFU Ceredigion, gyda diddordeb arbennig mewn Iechyd a Diogelwch
  • Mae Glyn yn aelod o grŵp trafod defaid Cyswllt Ffermio lleol, sydd bellach yn canolbwyntio ar Fesur i Reoli  

Busnes fferm presennol

  • Daliad 160 erw, berchen hanner a rhentu hanner 
  • 250 o famogiaid llawr gwlad a 250 o famogiaid ucheldir a gedwir ar gyfer cynhyrchu cig a chyflenwi stoc
  • Busnes contractio amaethyddol. Mae gwasanaethau allweddol yn cynnwys cynhaeafu byrnau crwn a thorri gwrychoedd

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

Ar ôl gadael yr ysgol, cwblhaodd Glyn nifer o gymwysterau NPTC yn cynnwys cynhyrchu bîff a defaid; llif gadwyn; plaladdwyr; dipio defaid a chludo defaid, i enwi ychydig. Bu hefyd yn gweithio fel archwiliwr i’r NPTC cyn dychwelyd adref i weithio ar y fferm deuluol a sefydlu busnes contractio amaethyddol ei hun. 

 

Awgrymiadau da ar gyfer rheolaeth Iechyd a Diogelwch 

 “Ystyriwch yr hyn sydd o’ch cwmpas bob amser cyn dechrau unrhyw waith a chymerwch gamau i ddileu neu leihau unrhyw beryglon penodol.”

“Gwnewch eraill yn ymwybodol o’r hyn rydych chi’n bwriadu ei wneud a lle ydych yn bwriadu gweithio a chadwch mewn cysylltiad yn rheolaidd.”

“Buddsoddwch amser mewn hyfforddiant a gwnewch yn siŵr bod unrhyw gerbydau neu offer rydych chi’n ei ddefnyddio mewn cyflwr gweithredol da a diogel.”

“O ran gweithio gydag anifeiliaid mawr, gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio’r cyfleusterau cywir.”

“Osgowch weithio ar ben eich hun ond os oes rhaid, cariwch eich ffôn symudol bob amser.”