Pam fyddai Neil yn fentor effeithiol

  • Mae Neil yn aelod proffesiynol o Sefydliad Siartredig y Coedwigwyr ac mae wedi gweithio yn y diwydiant coedwigaeth am 36 mlynedd, i gychwyn fel gweithiwr ac yn awr fel rheolwr
  • Bu Neil yn gweithio mewn coedwigaeth yn y sector cyhoeddus a phreifat, gan gynnwys ymrwymiadau tir cyfreithiol, diogelwch coed, mynediad cyhoeddus, cytundebau cymunedol, gweithio mewn partneriaeth, yn ogystal â phlannu, cynnal a chadw coed a’u cynaeafu
  • Rôl bresennol Neil yn y sector preifat yn rheoli timau a chyfrifoldebau am ystad goetir fawr yn y sector cyhoeddus, canolfannau ymwelwyr a gwarchodfeydd natur.
  • Mae’r prosiectau amgylcheddol yn cynnwys adfer mawn ar raddfa fawr, adfer cynefin coetir hynafol naturiol, a rheoli safleoedd sydd wedi eu dynodi
  • Dylai arbenigedd Neil mewn rheoli tir a’i brofiad o fentora a recriwtio fod o fudd i bobl sy’n ystyried newid defnydd tir ar gyfer eu busnes, neu recriwtio staff newydd i dyfu eu busnes.
  • Fel mentor, mae Neil wedi cefnogi ffermwyr i ymgymryd â rheolaeth goetir gynaliadwy, er budd incwm fferm, rheolaeth goetir dda a chreu cynlluniau creu coetir fferm.
  • Gall gwybodaeth a phrofiad Neil o amaeth a choedwigaeth helpu busnesau sy’n ystyried creu coetir newydd ar ffermydd, a chreu busnes newydd a sefydlu cynlluniau busnes i newydd-ddyfodiaid i amaethyddiaeth a choedwigaeth
  • Mae Neil hefyd yn newydd-ddyfodiad i’r diwydiant amaeth, ers 2003, ac yn unig fasnachwr hunangyflogedig ar fusnes amaethyddol 20 hectar.

Busnes fferm presennol

  • Rheolwr tir rhanbarthol i Gyfoeth Naturiol Cymru, yn rheoli 35,000 hectar o goedwigoedd a Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol yn Nghanolbarth Cymru. Yn cynnwys rheoli tîm o 55 o staff a nifer o gontractau.
  • Sefydlodd ynni solar i’w gyflogwr, a hwyluso datblygiadau ynni gwynt a dŵr ar dir Llywodraeth Cymru gan weithio gyda datblygwyr
  • Fferm 20 hectar, gyda 150 o famogiaid North Country Cheviot yn ogystal â bridio a hyfforddi cŵn defaid

Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad

  • City and Guilds 1 mewn coedwigaeth Newton Rigg, Cumbria
  • Diploma cenedlaethol mewn coedwigaeth Newton Rigg, Cumbria
  • Achrediad proffesiynol gyda Sefydliad y Coedwigwr Siartredig. FICFor.

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Byddwn yn gweld newid mawr yn y cymunedau ffermio a choedwigaeth dros y ddegawd nesaf yng Nghymru. Bydd gweithio ar y cyd yn ein helpu ni i gyd i sicrhau’r cydbwysedd effeithiol ac effeithlon rhwng cynhyrchu a’r amgylchedd.”

“Gall coed a choedwigoedd fod yn rhan annatod o fusnes fferm, ac mae’r angen i ddeall amcanion eich busnes a sut y gall coed ffitio i mewn i’ch model busnes yn gam cyntaf.” 

“Nid yw un dull yn addas i bawb, a gyda’r coed iawn yn y lle iawn, am y rheswm iawn, bydd yn ein helpu i sicrhau’r cydbwysedd rhwng cynhyrchu bwyd a’r galw cynyddol am bren yn ein bywydau bob dydd.” 

“Un o’ch asedau mwyaf ar gyfer eich busnes fydd sefydlu ystod o gysylltiadau yn eich diwydiant cysylltiedig, a pheidiwch â bod ofn gofyn am gyngor neu gymorth. Mae’n debyg bod eich problemau neu’ch brwydrau wedi cael eu profi gan eraill, sydd yn bwysig iawn wedi dysgu sut i oresgyn yr anawsterau neu’r heriau hynny ac yn bwysig iawn wedi dysgu sut i beidio â’u hailadrodd.”