Aled Rhys Jones
Magwyd Aled ar fferm fynydd deuluol yng Nghwrt-y-Cadno, gogledd Sir Gâr. Astudiodd Rheolaeth Tir ym Mhrifysgol Reading gan raddio gyda Gradd Dosbarth Cyntaf. Yn fuan wedyn, ymunodd Aled bractis syrfewyr blaenllaw yn Ne Cymru lle cymhwysodd fel Syrfëwr Siartedig a death yn Gymrawd gyda Chymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol.
Ar ôl treulio 6 mlynedd yn gweithio fel Gwerthwr Tir, cafodd Aled ei benodi’n Brif Weithredwr Cynorthwyol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC). Yn ystod ei amser gyda CFAC, goruchwyliodd gyfnod o newid sylweddol a chyfrannodd tuag at lwyddiant y Sioe Frenhinol Cymru (un o sioeau amaethyddol mwyaf Ewrop) yn cynnwys arwain staff yn ystod y Ffair Aeaf.
Yn 2018, derbyniodd Aled y cynnig cyffrous o fod yn Brif Swyddog Gweithredu Cymdeithas Ganolog y Priswyr Amaethyddol sef corff proffesiynol arbenigol sy’n cynrychioli gweithwyr gwledig proffesiynol ar draws y DU. Yn ystod yr un flwyddyn, sefydlodd fusnes ymgynghori annibynnol yn cynnig cyngor tir ac eiddo yn ogystal â dod i’r amlwg a meithrin enw da yn y cyfryngau. Mae Aled yn gyfathrebwr effeithiol a chafodd ei ddewis i gyflwyno rhaglen radio wythnosol o’r enw “West Wales Farming” sy’n cael ei ddarlledu bob bore Sul rhwng 8yb a 9yb ar dair gorsaf radio sef Radio Sir Benfro, Sir Gâr a Cheredigion.
Er gwaethaf ei ymrwymiadau proffesiynol, mae Aled yn parhau i chwarae rôl weithredol ar y fferm deuluol lle datblygodd y rhan fwyaf o’i wybodaeth a phrofiad ymarferol mewn amaeth. Yn 2013, bu Aled yn rhan o Raglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth ac o ganlyniad, fe’i gwahoddwyd i fod yn aelod o Ffermwyr Dyfodol Cymru. Rhoddodd y profiad Academi Amaeth yr hyder iddo ymgeisio am Ysgoloriaeth Ffermio Nuffiled ac enillodd y Wobr Nuffield Ifanc (Bob Matson) a roddir i entrepreneuriaid ifanc.
Mae’n siaradwr gyda’r nos talentog ac mae wedi cyflwyno mewn nifer o gynhadleddau ar draws y DU a chyn belled â Singapore. Ym mis Mehefin 2017, fe’i gwahoddwyd i fod yn Ymddiriedolwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol y Gymanwlad a chafodd ei benodi’n un o Hwyluswyr y Genhedlaeth Nesaf hefyd. Fel rhan o’r swydd, teithiodd i Dde Affrica yn 2017 a bydd yn teithio i Ganada yn 2018 ar gyfer Cynhadledd Amaethyddol y Gymanwlad (yr 28ain).
Mae Aled hefyd yn gyfarwyddwr anweithredol Menter Bro Dinefwr sy’n cefnogi adfywio cymunedol a datblygiad yr iaith Gymraeg yn nyffrynnoedd Cothi, Tywi ac Aman.
Mae Aled yn byw gyda’i wraig Lisa yn Llandeilo. Mae’r ddau yn rhedwyr brwd ac wedi cwblhau Marathon Llundain; Lisa yn 2015 ac Aled yn 2016. Aled oedd â’r amser gorau!