Gareth Davies
Mae Gareth yn bartner yn ei fferm deuluol ger Howey lle mae’n ffermio bîff a defaid. Yn briod â dau o blant, gydag un ohonynt yn astudio Amaeth yn y Brifysgol, mynychodd Gareth Goleg Amaeth Cymru yn Aberystwyth lle astudiodd Ddiploma Cenedlaethol mewn Amaeth. Mae hefyd wedi gweithio ar fferm ddefaid 34,000 erw yn yr Alban yn ogystal â theithio i Seland Newydd i gneifio yn 1996.
Mae diddordebau Gareth yn cynnwys rygbi, saethu a chynorthwyo gyda’i glwb CFfI lleol. Mae Gareth yn weithgar yn ei gymuned lle mae’n gweithredu fel Cadeirydd Sioe Hundred House ar hyn bryd ac arferai fod yn Ysgrifennydd yr adran ddefaid. Mae Gareth hefyd yn aelod o grŵp Agrisgôp Cyswllt Ffermi, sef y Mid Wales Grazier’s Working Hill Group, ac mae’n gyn-aelod o grŵp Tir Glas Dyffryn Gwy.
Llwyddodd Gareth i gwblhau Rhaglen Arweinyddiaeth Wledig yr Academi Amaeth yn 2017 lle ennillodd nifer o sgiliau a ffrindiau newydd. Darparodd y rhaglen y cyfle iddo rannu ei syniadau gydag unigolion o’r un meddylfryd yn ogystal ag archwilio’r opsiynau sydd ar gael o ran ei ddyfodol o fewn y diwydiant.
Penodwyd Gareth fel Arweinydd Agrisgôp yn ddiweddar ac mae’n edrych ymlaen at gefnogi eraill o fewn y diwydiant i symud eu busnesau yn eu blaen.