Geraint Hughes

Mae Geraint yn gweithio fel Arweinydd Agrisgôp ers 2007 gan weithio gyda grwpiau yn bennaf yn ardal Gogledd Gwynedd a Môn, ond hefyd gyda rhai dros ardal ehangach megis Gogledd Cymru a Chymru gyfan. Ei nod fel Arweinydd yw herio, cefnogi a hwyluso grŵp o bobl drwy broses o newid.

Bu’n gweithio gyda grwpiau mewn sawl maes gwahanol gan gynnwys ynni adnewyddadwy, datblygu’r gadwyn gyflenwi, brandio, marchnata, arallgyfeirio, magu hyder, arloesi a chryfhau rhwydweithiau. Serch yr amrywiaeth, mae’r sgiliau ar gyfer cefnogi a hwyluso grwpiau yn debyg.

Cymhwysodd ei hun dros y cyfnod gyda sgiliau hwyluso a chefnogi grwpiau, gan ddatblygu ystod o dechnegau defnyddiol.

Rhan o’i waith yn ôl Geraint yw sicrhau bod y lle a’r cyfle yn cael ei greu ar gyfer grwpiau i ddatblygu yn y cyfeiriad y maent yn ei ddymuno. Mae’n hefyd yn cynnwys annog grwpiau i feddwl am y dewisiadau posib ac i gefnogi aelodau i weithredu penderfyniadau a wneir ganddynt.

Pobl yn nhyb Geraint yw’r elfen bwysicaf mewn busnes fferm neu goedwigaeth, ac mae’r cynllun Agrisgôp yn darparu gofod a’r amodau addas i feddwl ac i fireinio meddylfryd.

Fel person sy’n datblygu mentrau bwyd ei hun, mae Geraint yn ymwybodol iawn o’r her sy’n wynebu perchnogion busnes mewn sectorau mor gystadleuol ac anwadal megis ffermio a choedwigaeth.