Gwen Davies

Cafodd Gwen ei geni a’i magu ar fferm deuluol yng Nghilcain, Sir y Fflint. O oedran ifanc, gwyddai Gwen y byddai’n dilyn gyrfa yn ymwneud â ffermio a chefn gwlad gan ei bod yn teimlo’n gryf am gynnal diwydiant amaethyddol sy’n ffynnu.

Ar ôl graddio o Brifysgol Harper Adams gyda gradd anrhydedd, symudodd Gwen i East Anglia lle bu’n byw a gweithio am wyth mlynedd ar gyfer Asantiaeth yr Amgylchedd a’r National Farmers Union mewn swyddi yn ymwneud â pholisïau amaeth-amgylchedd. Arweiniodd ei gyrfa gyda’r NFU at Gwen yn dychwelyd i Gymru i weithio fel Rheolwr Datblygu Busnes yng Ngogledd Cymru, gan reoli rhwydwaith o swyddfeydd NFU Cymru lleol ac aelodaeth o’r undeb am wyth mlynedd bellach.

Cafodd Gwen ei phenodi’n arweinydd Agrisgôp ym mis Mawrth. Daw Gwen ag agwedd gadarnhaol a chefnogol i newid a syniadau newydd. Ar ôl gweithio mewn sawl swydd o fewn y gymuned amaethyddol yn cynghori a chefnogi ffermwyr, datblygodd Gwen wybodaeth drylwyr o’r diwydiant a rhwydwaith eang o gysylltiadau. Gyda syniadau cyffrous ac agwedd frwdfrydig, mae Gwen yn edrych ymlaen at ddatblygu perthnasau cryf gyda’i grwpiau Agrisgôp.

Mae Gwen yn briod â Rhys, sy’n gweithio fel asiant tir. Mae ganddynt ddau o blant ifanc, sydd ill dau yn ‘tractor mad’, felly maent yn treulio llawer o amser ar fffermydd eu teuluoedd ac yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau o fewn y gymuned amaethyddol.