Mark Davies
Cafodd Mark ei fagu yng Nghanolbarth Cymru gyda chefndir mewn cynhyrchu defaid pedigri a masnachol. Ar ôl gadael yr ysgol, gweithiodd ar ffermydd yn Awstralia a Seland Newydd, ac yn ddiweddarach, llwyddodd i ennill gradd mewn Amaethyddiaeth. Mae gan Mark brofiad ymarferol o gynhyrchu da byw a chynnyrch tir âr, a hynny mewn modd organig a chonfensiynol.
Wedi iddo ddychwelyd i’w fferm gartref, arallgyfeiriodd i gynhyrchu tyrcwn, ac yna Ieir Maes, yn cynhyrchu wyau glas. Oherwydd diffyg cefnogaeth a phrofiad ar y pryd, aeth Mark at ffermwyr eraill a oedd ar fin dechrau yn y sector gymharol newydd hon, a gyda Wyn Owen fel Arweinydd, sefydlwyd Grŵp Agrisgôp. Roedd aelodau'r grŵp yn gallu rhannu syniadau cynhyrchu a rheolaeth, ac fel endid mwy o faint, roeddent mewn lle gwell i allu trafod telerau. Datblygwyd brand hefyd er mwyn marchnata rhai o’r wyau yn lleol.
Daeth Mark yn arweinydd Agrisgôp ei hun o ganlyniad i gymryd rhan ym mhroses dysgu gweithredol Agrisgôp, ac ers hynny mae wedi cynnal dwsin o grwpiau. Yn wreiddiol, gweithiodd gyda chynhyrchwyr wyau maes eraill ac adeiladu ar y profiad a ddatblygodd. Mae wedi gweithio gyda grwpiau o ffermwyr ifanc brwd i fanteisio a datblygu ar eu brwdfrydedd i ddilyn trywydd adeiladol. Mae wedi helpu grwpiau i edrych i mewn i ynni adnewyddadwy fel ffynhonnell amgen o incwm gyda sawl prosiect solar llwyddiannus.
Yn fwy diweddar, mae wedi bod yn ymwneud â Chrynhowyr Anaerobig a chyflenwad angenrheidiol o stoc bwyd a’r problemau sy’n codi yn y rhan yma o'r byd. Mae meysydd eraill o’i waith yn cynnwys rheoli ardal dalgylch a cheisio datblygu taliad am reolaeth ecosystem gyda sefydliadau eraill. Mae gan Mark hefyd brofiad o sefydlu cytundebau mentrau ar y cyd ac amrywiaeth o ddulliau eraill o gydweithio rhwng ffermwyr.