Mynd i'r Afael â’r Clafr - dull a arweinir gan ffermwyr

Mae’r clafr yn achosi colledion economaidd a lles difrifol ac yn costio tua £5.86m y flwyddyn i’r diwydiant defaid yng Nghymru rhwng costau trin a cholli cynhyrchiant.  Mater allweddol o ran mynd i’r afael â’r clafr o fewn ac ar draws diadelloedd defaid yw pa mor hawdd y caiff haint ei drosglwyddo o ddiadell i ddiadell, oherwydd heriau bioddiogelwch, sy’n peri pryder arbennig mewn systemau pori eang/ucheldir, ac ardaloedd sy’n cael eu pori’n gymunedol. Yr ateb hirdymor gorau i drin y clafr yw cael gwared ar y clefyd yn gyfan gwbl o Gymru a gweddill Prydain. Y cyfle gorau sydd gennym o gyflawni hyn yw os bydd ffermwyr yn mynd i’r afael â’r clefyd mewn ffordd gydweithredol.

Yn y prosiect tair blynedd hwn bu grŵp o ffermwyr o fewn plwyf Ceulanmaesmawr, Talybont, Gogledd Ceredigion, yn ymchwilio i sut y gall cydweithio, yn hytrach nag ymdrech fferm unigol, wella llwyddiant triniaeth clafr.

Canlyniadau'r Prosiect

Roedd y prosiect yn gallu:

  • Cynyddu lefel y rheolaeth, a gwybodaeth am y clafr yn ardal Ceulanmaesmawr.
  • Gwella'r cyfathrebu a'r cyswllt rhwng ffermwyr, yn ogystal â rhwng ffermwyr a'u milfeddygon ar y pwnc o adnabod a rheoli’r clafr.
  • Dangos y manteision o ddefnyddio profion gwaed ELISA i ganfod achosion cynnar o’r clafr cyn bod arwyddion clinigol yn bresennol, gan alluogi ffermwyr i gydgysylltu’r broses o drin diadelloedd â chymdogion er mwyn sicrhau bod y clafr yn cael ei reoli ar y ffermydd hynny.
  • Cynyddu dealltwriaeth ffermwyr o lwybrau haint sy’n benodol i’r ddiadell, dulliau diagnosis, opsiynau triniaeth a phwysigrwydd monitro ar gyfer haint, hyd yn oed pan nad oedd unrhyw arwyddion clinigol.