Asesu potensial cynnal profion genomig ar heffrod llaeth i gynyddu enillion geneteg ac elw ariannol

Assessing the potential of genomic testing dairy heifers to increase genetic gains and financial returns

Trwy raglen EIP yng Nghymru, mae naw ffermwr o ogledd Cymru wedi bod yn ymchwilio i botensial defnyddio profion genomig ar eu heffrod llaeth i ganfod yr anifeiliaid gorau ar gyfer bridio o oedran ifanc iawn.

35% yw dibynadwyedd etifeddu nodweddion o’r mynegai pedigri traddodiadol. Trwy ddefnyddio profion genomig i fesur DNA ar gyfer cynhyrchu, math, ffrwythlondeb a nodweddion iechyd gall hyn gynyddu’r dibynadwyedd i 70%.

Ond mae profion genomig yn ddrytach felly roedd y grŵp eisiau gweld a yw’n werth buddsoddi’r gost ychwanegol er mwyn cael gwybodaeth fwy dibynadwy. 
 
Canlyniadau’r prosiect

  • Dangosodd senario fridio enghreifftiol y byddai 23% o’r heffrod wedi cael eu bridio’n anghywir pe byddai’r wybodaeth yn seiliedig ar y ffigyrau £PLI (mynegai proffidioldeb oes) traddodiadol. Roedd hyn yn gyfwerth â cholledion £PLI  posibl o £6, 914 ar gyfer y genhedlaeth nesaf.
  • Budd cynnal profion genomig yw’r gallu i gynyddu enillion genynnol.
  • Roedd cyfanswm y budd economaidd a gafwyd o ganlyniad i gynnal profion genomig yn £46.89 - £27.50 (cost y prawf) = £19.39 fesul heffer. Fodd bynnag, nid yw hyn yn cynnwys y budd ariannol sy’n gysylltiedig â buddsoddi yng ngenynnau’r fuches.

Mae rhagor o fanylion am ganfyddiadau’r prosiect ar gael yn yr adroddiad isod.