Pam fyddai Chris yn fentor effeithiol

  • Mae mwyafrif o yrfa Chris wedi ymwneud â mentora o fewn y sectorau tir; yn y brifysgol fel ymchwilydd ôl-raddedig; ym myd ffermio trwy ei swyddi cynghori; yn y diwydiannau coedwigaeth a choetir trwy ei swyddi uwch-reoli ac archwilio, ac fel cyfarwyddwr cwmni hyfforddiant amlddisgyblaeth sy’n cynnwys mentora tîm o dros 30 o hyfforddwyr ac aseswyr
  • Mae Chris gweithio mewn swyddi mentora yn ogystal â gweithio fel gwiriwr gyfer Lantra a City & Guilds ers 25 mlynedd bellach
  • Wedi rhedeg cwmnioedd ei hun ers 1983, mae Chris hefyd wedi bod yn gysylltiedig â chynllunio a darparu cyrsiau hyfforddi ar ystod eang o bynciau ar gyfer pobl ar bob lefel
  • Mae’n gyfathrebwr da ac yn awyddus i rannu ei wybodaeth a’i brofiad o weithio o fewn y sectorau tir yn cynnwys amaethyddiaeth, coedwigaeth a choetir, coedyddiaeth, adeiladu a’r sectorau tirwedd/hyfrydwch
  • Mae Chris yn edrych ymlaen at roi rhywbeth yn ôl trwy helpu busnesau reoli iechyd a diogelwch yn y gweithle yn seiliedig ar brofiad gwaith ymarferol
  • Ynghyd â’i wraig Anne a’u pedwar o blant, mae Chris yn rhedeg eu busnes contractio coedwigaeth a sefydlwyd gyntaf i gynhyrchu coed tân a sglodion pren yn 1985, yn ogystal â’i fusnes fel darparwr hyfforddiant yn ymwneud â diwydiannau’r tir

Busnes fferm presennol

  • 10 erw o goetir llydanddail cymysg a reolir ar sail gorchudd parhaus gan weithredu system goedwrol effaith isel
  • Cyfarwyddwr Mwmac Ltd, cwmni sy’n darparu hyfforddiant amlddisgyblaeth ar gyfer y sectorau tir

Cymwysterau / cyraeddiadau / profiad

BSc Botaneg Amaethyddol, Prifysgol Aberystwyth
MSc Gwella Amaethyddiaeth Ucheldir, Prifysgol Aberystwyth
Arbenigwr iechyd anifeiliaid
Busnes Rheoli Coetir
1985 – hyd heddiw, Hyfforddiant Diwydiannau’r Tir ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol
Wedi rhedeg Hyfforddiant Cynllun Busnes Egni Coed ar gyfer y Comisiwn Coedwigaeth. Mae’r cynllun wedi parhau dan Lantra fel y cwrs ‘Ignite’ sy’n ymwneud â thyfu, prosesu a defnyddio tanwydd coed

AWGRYMIADAU DA AR GYFER RHEOLAETH IECHYD A DIOGELWCH

“Dechreuwch weithio ar dasg ar yr amod eich bod yn gymwys i gyflawni’r gwaith mewn modd saff ac effeithiol. Hynny yw, sicrhewch fod gennych y wybodaeth, dealltwriaeth, gallu, hyfforddiant a’r profiad i gyflawni’r gwaith yn ddiogel:

Cynlluniwch yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud
Sicrhewch eich bod yn dilyn mesurau diogelu priodol
Gofynnwch am gyngor pan fo angen
Yna, gweithiwch ar gyflymder sy’n cyfateb i lefel eich sgil ond byddwch yn barod i stopio a meddwl os nad yw pethau’n mynd yn iawn.

Os ydych yn gofyn i eraill i wneud tasg, dylid defnyddio’r un broses. Mae’n synnwyr cyffredin sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’r broses o reoli risg.”