Pam fyddai Glasnant yn fentor effeithiol

  • Mae Glasnant yn credu mai un o’i brif asedau yw ei wybodaeth am fywyd amaethyddol. Roedd yn ffermio gyda’i dad a’i frawd hyd 1991 pan rannwyd y busnes teuluol ac iddo rentu fferm gyfagos.
  • Mae’r busnes wedi ehangu dros y blynyddoedd  ac mae'r ardal sy'n cael ei ffermio bellach yn cyfateb i fwy na 400 erw sy'n gyfuniad o dir sy’n eiddo ac yn dir rhent, yn cynnwys 70 erw o goetir.
  • Mae Glasnant, fel sawl ffermwr, wedi profi amseroedd ariannol anodd ac fe ddywedwyd wrtho unwaith ei fod wedi ‘mynd tu hwnt i gael ei achub’ pan oedd ei fenthyciadau yn drwm iawn. Ond, mae wedi bod yn ffermio yn ddiddyled ers sawl blwyddyn, mae wedi prynu rhagor o dir a hefyd gosod cynllun trydan dŵr.
  • Mae cynllunio rheoli maetholion, tyfu cnydau o ansawdd uchel,ail-hadu rhai caeau â million coch a chynyddu lefelau protein tra’n lleihau costau wedi chwarae rôl allweddol wrth sicrhau bod y fferm yn fenter broffidiol.
  • Mae Glasnant yn ceisio cadw’r busnes mor hunangynhaliol â phosibl, gan dyfu’r rhan fwyaf o’r bwyd ar y fferm, gan gadw’r holl stoc gartref a chadw diadell gaeedig. Mae’r mamogiaid Cymreig yn rhoi stoc cyfnewid am well mamogiaid ac mae’n pesgi ŵyn heb ddefnyddio dwysfwyd.
  • Mae Glasnant yn gefnogwr brwd o ddysgu gydol oes a rhannu profiadau gyda ffermwyr eraill. Mae wedi bod yn aelod o Gymdeithas Tir Glas lleol ers dros 35 mlynedd a dyweda bod y wybodaeth y mae’r grŵp yn rhannu ymysg ei gilydd yn amrhisiadwy, gyda’r holl aelodau’n arbed arian ar gostau porthiant. 
  • Ers 2014, mae’r busnes wedi arallgyfeirio i gynhyrchu ynni gwyrdd sydd wedi darparu ffrydiau incwm incwm newydd a phwysig a fydd yn sicrhau cynaliadwyedd a hyfwyedd y fferm yn y tymor hir ar gyfer tri o feibion Glasnant, gydag un ohonynt yn bartner ac yn ffermio gyda’i dad. 
  • Mae cefnogaeth gan Cyswllt Ffermio wedi arwain at nifer o darfodaethau o amgylch y bwrdd am gynllunio olyniaeth gyda holl aelodau’r teulu’n cymryd rhan ac yn gytûn ar ddiogelu dyfodol ac elw’r busnes.

Busnes fferm presennol

  • 230 erw yn eiddo iddynt, 170 erw ar Denantiaeth Fusnes bum mlynedd 
  • Y teulu, yn cynnwys grwaig Glasnant ac un o’i ferched yng nghyfraith, yw’r gweithlu ar y fferm
  • 45 o fuchod magu, croes Limousin yn cael eu troi at Charolais, yn lloea yn y gwanwyn a’r haf. Buchod sy’n lloea yn yr haf yn cael eu troi i’r mynydd i osgoi mastitis ac mae hyn yn rhyddhau rhagor o dir i’w dorri yn silwair. Lloeau yn cael eu cadw fel gwartheg stôr
  • 800 o famogiaid magu, croes miwls Cymreig a Texel, a 210 o stoc cyfnewid, gyda hanner yr ŵyn yn cael eu gwerthu trwy farchnadoedd lleol ym mis Mai/Mehefin.Caiff rhai hyrddod blwydd eu gwerthu
  • 70 erw o goetiroedd, yn bennaf wedi plannu ar dir lletchwith dros yr 20 mlynedd ddiwethaf. Yn ôl adroddiad annibynnol diweddar, mae’r fferm yn hollol garbon niwtral ers sawl blwyddyn ac mae’r coetir hefyd yn creu refeniw.
  • 20 erw o gnwd cyfan ac 20 erw o swêj yn cael eu tyfu ar y fferm yn borthiant i’r stoc
  • Cynlluniau i dreialu Miscanthus a fyddai’n cynnig opsiwn rhatach na gwellt ac yn cyfrannu tuag at niwtraliaeth garbon y fferm ymhellach.
  • Cynlluniau ynni adnewyddadwy solar, biomas a thrydan dŵr sydd wedi ychwanegu gwerth at y busnes trwy ddefnyddio adnoddau oedd yn bodoli eisoes
  • Yn trefnu nifer o ymweliadau fferm yn y flwyddyn gydag ymweliad blynyddol gan ffermwyr o Seland Newydd trwy ‘Field Farm Tours’ a sawl sefydliad gweithgareddau awyr agored ar draws y DU

Cymwysterau/ cyraeddiadau/ profiad

  • Aelod o Gymdeithasau Tir Glas Aberhonddu a Dyffryn Gwy
  • Cymrawd o Gyngor Gwobrau'r Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol
  • Cyn-gadeirydd sirol NFU Cymru Brycheiniog a Maesyfed
  • Is-gadeirydd Comin Buckland Manor
  • Enillydd Glaswelltir Cymru a’r Deyrnas Unedig 2005
  • Mentor Cynllun Cefnogi Newydd-ddyfodiaid ers 2010
  • Ail yng Ngwobr Cornchwiglen Arian y Deyrnas Unedig am yr amgylchedd 
  • Aelod o Raglen Arweinyddiaeth Wledig Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, 2019

AWGRYMIADAU DA AR GYFER LLWYDDIANT MEWN BUSNES

“Peidiwch â gorwario, anelwch at fod yn hunangynhaliol trwy gynhyrchu stoc o ansawdd uchel gan ganolbwyntio ar iechyd anifeiliaid tra’n cadw costau’n isel. 

“Manteisiwch ar gynlluniau fel Glastir ac ynni gwyrdd os ydyn nhw’n addas i’ch busnes.”

“Peidiwch â gweithredu ar ben eich hunan, rhannwch yr hyn yr ydych yn ei wneud ag eraill, gallwn ni gyd ddysgu gan brofiadau pobl eraill.”

“Gofalwch am eich iechyd corfforol a meddyliol, mae siarad gydag eraill yn allweddol ac mae ‘na ddatrysiad i unrhyw broblem bob amser.”