Pam y byddwn i’n fentor effeithiol

  • Wyth mlynedd o brofiad o adeiladu busnes fferm newydd, gan ddatblygu brid ‘Moch Duon Cymreig’ prin ein hunain sy’n cael eu bwydo ar fwyd moch arbennig mewn coetir a thir pori o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
  • Wedi dysgu’r holl broses ‘ffermio moch lles uchel’ o ddewis stoc i brynu i mewn, cael trefn bridio, magu anifeiliaid a maethiad o’u geni i’w pesgi. 
  • Mae’r moch yn cael eu lladd yn lleol ac yn cael eu dychwelyd i’r cigydd yn ein hystafell dorri bwrpasol. Yna, caiff blychau porc eu pacio a’u dosbarthu’n uniongyrchol i fannau gwerthu i gwsmeriaid, gan gynnwys bwytai a chigyddion sydd wedi ennill gwobrau
  • Profiad busnes a rheoli cyllid, brandio, sefydlu gwefan newydd, creu presenoldeb ar-lein a marchnata
  • Mae Lauren yn gyfathrebwr ardderchog ac yn mwynhau cynnig arweiniad ymarferol ac awgrymiadau i unrhyw un sydd eisiau sefydlu a rheoli menter foch llwyddiannus

Busnes fferm bresennol

  • Yn 2014, prynodd Lauren a’i phartner eu fferm gyntaf a sefydlu Fferm Forest Coalpit. Mae hon bellach yn fferm foch brid prin, awyr agored ‘o eni i besgi’ â lles uchel, gyda chigyddiaeth ar y fferm.
  • Maent yn gwerthu i fwytai, cigyddion ac yn uniongyrchol i’r cyhoedd drwy eu gwefan, gan ddefnyddio negesydd i anfon eu porc, bacwn a selsig ledled y wlad.
  • Heb fod yn wreiddiol o gefndir ffermio, mae’r ddau wedi dysgu popeth o brynu a magu moch pedigri sydd wedi ennill gwobrau i sgiliau cigyddiaeth, marchnata a chreu presenoldeb ar-lein.

Cymwysterau/cyflawniadau/profiad

  • Swyddog Datblygu, Menter Moch 
  • Gwobrau Great Taste (2) – 2018 

Awgrymiadau ar gyfer cynnal busnes llwyddiannus

“Gwnewch eich gwaith ymchwil er mwyn dod o hyd i system o ffermio moch sy’n cyd-fynd â’ch bywyd gwaith a phersonol presennol – mae’n rhaid iddo weithio i chi.”

“P’un a ydych chi newydd ddechrau sefydlu busnes yn unig neu’n edrych i wella cynhyrchiant a phroffidioldeb eich gweithrediad moch, canolbwyntiwch ar system o ansawdd uchel – bydd gan foch iach a hapus well cyfraddau geni perchyll.”

“Bydd cynyddu eich presenoldeb yn y farchnad yn eich helpu i gynyddu’r elw ac yn eich galluogi chi i gael y gorau o’ch fferm foch.”