Mentora
Mae Cyswllt Ffermio wedi sefydlu cynllun mentora newydd ar gyfer ffermwyr, coedwigwyr a chynhyrchwyr bwyd, a byddant yn gallu derbyn arweiniad a chyngor gan eu cyfoedion ynglŷn ag ystod eang o bynciau.
*Oherwydd cyfyngiadau'r coronafeirws (Covid-19) ar hyn o bryd, gall ein mentoriaid ond gynnal ymweliadau safle yn yr awyr agored yn unig. Fodd bynnag, rydym yn annog mentora digidol, dros y ffôn neu arlein lle bynnag y bo'n bosib.*
Ar gyfer pwy mae hwn?
Targedir y rhaglen fentora at ffermwyr a choedwigwyr o bob oed a statws busnes, gan gynnwys,
- newydd-ddyfodiaid
- busnesau sy’n ystyried newid cyfeiriad strategol arwyddocaol (arall gyfeirio, ychwanegu gwerth, ehangu, mentrau newydd)
- unigolion sy’n gobeithio gadael y diwydiant
- busnesau neu unigolion sy’n wynebu anawsterau neu galedi
Wrth gwrs, mae’r gwasanaeth hefyd yn addas ar gyfer unigolion sy’n chwilio am ail farn, clust i wrando a chefnogaeth gyda busnes dydd i ddydd.
Beth mae’n ei gynnwys?
Gall menteion cymwys dderbyn 15 awr o wasanaethau mentora wedi'u hariannu'n llawn gyda mentor ffermio neu goedwigaeth o'u dewis nhw. Gallwch gyfathrebu mewn sawl ffordd gan gynnwys ymweliadau wyneb yn wyneb, sgyrsiau ffôn neu alwadau fideo i enwi ambell un. Noder bod y 15 awr a glustnodir yn cynnwys amser teithio’r mentor pe baent yn ymweld â chi.
Ym mhle bydd hyn yn cymryd lle?
Mae’r Mentoriaid Cyswllt Ffermio yn dod o bob cwr o Gymru. Gallech un ai ddewis mentor sy’n lleol i’ch rhanbarth chi, neu fentro ymhellach gan ddewis rhywun o ardal wahanol. Unwaith y bydd eich cais wedi cael ei dderbyn a'ch bod wedi cael eich paru, gallwch drefnu eich cyfarfod cyntaf - gallwch un ai ymweld â nhw neu wahodd nhw i ymweld â chi.
Pam fydden i eisiau Mentor?
Mae gan ein Mentoriaid brofiad personol, a gallant ddatblygu perthynas yn seiliedig at ymddiriedaeth a pharch cyffredin. Byddant yn gallu rhannu eu gwybodaeth, eu profiad a’u barn ddiduedd i’ch cynorthwyo i adnabod eich nodau a chyflawni eich potensial. Mae’n gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, i wrando, dysgu ac ehangu eich gorwelion a allai yn ei dro eich cynorthwyo i ganfod dulliau newydd i fynd i’r afael â sefyllfaoedd newydd ac ymdrin â heriau.
Dewis eich mentor
Ein Cyfeiriadur Mentoriaid yw'r prif 'ffenestr siop' sy'n eich galluogi i bori trwy'r rhestr proffiliau nes i chi ddod ar draws mentor sydd â'r cefndir a'r nodweddion a allai fod o fwyaf o gymorth i chi. Yna gallwch gwblhau'r ffurflen gais Rhaglen Fentora. Bydd Cyswllt Ffermio yn hysbysu'r Mentor a ddewisiwyd gennych gan roi eich manylion cyswllt iddynt