Proffil Darparwr
(Amlinelliad o'r cyfle sy'n cael ei ddarparu)
Rhif Cyfeirnod Mentro: 846
MANYLION Y TIRFEDDIANNWR
Mae Fferm Paviland, fferm deuluol draddodiadol wedi’i lleoli yng Ngŵyr hardd, De Cymru, yn chwilio am dyfwr i ddatblygu ei Ardd Farchnad.
Ganed ein gweithrediad Gardd Farchnad yn 2020, ac ers hynny rydym wedi bod yn tyfu llysiau o ansawdd uchel yn bennaf ar gyfer bwytai lleol, ond hefyd ar gyfer nifer fach o siopau a blychau llysiau.
Mae cnydio hyd yma wedi cyfuno cnydio awyr agored a chnydio gwarchodedig mewn 2 dwnnel polythen newydd, ac mae pob cnwd yn cael ei dyfu heb gemegau na gwrtaith artiffisial.
Rydym yn frwd dros dyfu bwyd a safon ar gyfer marchnadoedd lleol a helpu bwyd a ffermio i ddod yn fwy cynaliadwy. Mae gennym rwydwaith lleol da, ynghyd â gwefan a phresenoldeb cyfryngau cymdeithasol.
Ein nod yw dod o hyd i bartner uchelgeisiol sy’n rhannu ein hangerdd am symud y busnes yn ei flaen – yn ddelfrydol ar sail rhentu, i’n galluogi i gamu’n ôl, neu fel menter ar y cyd i’w chytuno.
Mae gennym dir (erwau i’w cytuno!), cyfleusterau ac offer yn barod i’w defnyddio, yn ddelfrydol i ddechrau ym mis Chwefror.
Ein targedau ar gyfer y 5 mlynedd nesaf:
I greu gardd farchnad ffyniannus sy'n cyflenwi bwytai a siopau lleol a chwsmeriaid eraill
MANYLION Y FFERM
Lleoliad:
Gŵyr
Ardal tir ar gael:
Erwau i’w cytuno
Isadeiledd ar gael h.y. adeiladau, cyfleusterau trin anifeiliaid:
Defnydd o doiled a gofod swyddfa, fan ddosbarthu, 2 dwnnel polythen gyda system ddyfrhau, tractor ac offer llaw
Peiriannau ar gael:
Tractor, triniwr ac og
Llety ar gyfer yr un sy’n chwilio am gyfle:
Gallwn ddarparu golygfeydd anhygoel o’r môr, ond yn anffodus dim llety!
MANYLION Y CYFLE
Math o gytundeb sy’n cael ei ystyried:
Math o gytundeb yn agored i drafodaeth
Gofynion y rôl gan gynnwys y prif dasgau, cyfrifoldebau a sgiliau sy’n ofynnol:
Datblygu cynlluniau cnydio a seilwaith, tyfu llysiau ar gyfer cwsmeriaid presennol a newydd, arwain aelodau eraill y tîm, trefnu danfon llysiau a datblygu gwerthiant
Cliciwch ar y ddolen isod er mwyn gwneud cais am y cyfle hwn: