Dadansoddiad o'r defnydd o chwynnwr robotig cyfrifiadurol mewn gweithrediadau garddwriaethol ar raddfa fach

An analysis of the use of a computerised robotic weeder in small scale horticultural operations at 2 locations in South Wales

Gan fod y defnydd o chwynladdwyr wedi'i wahardd mewn systemau a reolir yn organig, gallai offer robotig fod â manteision sylweddol wrth ymgymryd â gweithgareddau cynnal cnydau fel chwynnu. Mae'r chwynwyr hyn yn gyffredin mewn gweithrediadau mwy ond nid yw eu heffeithiolrwydd, na'u hyfywedd ariannol, mewn sefyllfaoedd ar raddfa fach wedi'u dadansoddi.

Nod y prosiect hwn oedd pennu'r arbedion o ran cost llafur ac amser y gellir eu gwneud o gymharu â'r dulliau presennol o hofio â llaw sy’n llafurddwys.

 

Canlyniadau'r Prosiect:

  • Roedd chwynnu robotig gan ddefnyddio systemau sy’n gweithredu yn ôl y llygad a ddefnyddir fel arfer mewn cnydau erwau eang yn hynod effeithiol. 
  • Byddai'r chwynwyr robotig a brofwyd yn y prosiect hwn o fudd i dyfwyr garddwriaethol ar raddfa fach i gynorthwyo eu gofynion rheoli chwyn, ond mae angen ystyried y gost brynu gychwynnol yn ofalus. Gweler Atodiad 1 yn yr adroddiad terfynol sy'n amlinellu cost flynyddol chwynwyr sy’n gweithredu yn ôl y llygad ar dri phwynt pris gwahanol.
  • Mae angen i'r rhesi cnwd fod yn hynod o syth (wedi'u plannu'n fanwl) i sicrhau nad oes unrhyw ddifrod i'r cnwd wrth i'r dannedd ddod yn agos iawn at y cnwd.
  • Ar un o'r safleoedd roedd y tyfwr yn hyderus y dylai'r defnydd o chwynnwr mecanyddol Steketee leihau'r angen am daenu chwynladdwr ar ôl i’r cnwd ddechrau tyfu a chynyddu effeithiolrwydd cyffredinol rheoli chwyn.
  • Mae potensial mawr o ran cynyddu'r arwynebedd a gwmpesir a lleihau cost/hectar peiriannau.