Porfa ar gyfer peillwyr

 

Mae’r gostyngiad yn y boblogaeth o wenyn gwyllt a pheillwyr eraill yn y Deyrnas Unedig yn creu bygythiad difrifol i’r diwydiant bwyd yma. Mae’r pryfed bach yma yn chwarae rôl anferth yn amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig trwy beillio’r llu o lysiau a ffrwythau yr ydym yn eu bwyta yn ddyddiol, yn ogystal â rhywfaint o’r bwyd y mae ein da byw yn dibynnu arno.

Bu chwe ffermwr sy’n aelodau o gwmni llaeth cydweithredol Calon Wen yn cynnal prosiect dros gyfnod o dair blynedd i weld a allai ymyriadau syml hybu niferoedd gwenyn ar eu ffermydd. Roedd eu ffermydd organig eisoes yn darparu cynefinoedd addas ar gyfer cacwn a pheillwyr eraill, ond roedden nhw’n dal i fod yn awyddus i weld a fyddai modd gwneud mwy.

Bu’r prosiect yn canolbwyntio ar gynnwys porfa aml-rywogaeth a oedd yn cynnwys pys ceirw’r mynydd, meillion (coch, gwyn, melys ac aslike) a milddail yn ogystal â rhygwellt. 

Mewn caeau a oedd yn cael eu defnyddio fel porfeydd neu gaeau i’w torri, roedd stribedi o’r porfeydd aml-rywogaeth yma’n cael eu gadael heb eu torri na’u pori i alluogi’r blodau i ddarparu digonedd o borthiant i’r pryfed peillio. Llwyddodd hyn i hybu niferoedd cacwn yn sylweddol, heb amharu’n ormodol ar gynhyrchiant y cae. Y tro nesaf y byddai’r cae hwnnw’n cael ei dorri neu ei bori, byddai’r stribedi hyn yn cael eu defnyddio a stribed newydd yn cael ei adael er mwyn sicrhau cyflenwad parhaus o flodau i’r gwenyn.

Arolygwyd pob fferm a rhoddwyd cyngor ynglŷn â’r ardaloedd y byddai modd eu haddasu i ddarparu cynefin i beillwyr. Roedd hyn yn cynnwys awgrymiadau megis rheoli gwrychoedd trwy eu torri’n llai aml i’w galluogi i flodeuo yn y gwanwyn a gadael i rywogaethau chwyn megis pengaled a phys ceirw’r mynydd i dyfu ar lwybrau ymylol

Mae’r ffermwyr, ynghyd â chynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cacwn a’r RSPB wedi creu adnoddau defnyddiol i ffermwyr eraill sydd â diddordeb gwella ardaloedd o’u ffermydd i ddarparu cynefin effeithiol ar gyfer pryfed sy’n peillio. Mae’r adnoddau hyn, gan gynnwys llyfryn ar Ffermio Tir Glas mewn modd sy’n Garedig i Beillwyr, ynghyd ag adroddiad llawn y prosiect, ar gael ar y dolenni isod.