Iwan George

Eglwyswrw, Sir Benfro

Yn gyn-gadeirydd i Glwb Ffermwyr Ifanc (CFfI) Sir Benfro, mae Iwan George yn ffermwr llaeth balch sy’n byw yn Eglwyswrw. Bellach yn bartner yn y busnes teuluol ac yn rhedeg buches o 130 o wartheg godro ochr yn ochr â’i rieni, mae Iwan yn trosglwyddo peth o’r wybodaeth a’r sgiliau y mae wedi eu datblygu o’i astudiaethau amaethyddol a lleoliadau gwaith i fusnes y fferm. 

Mae CFfI wedi bod yn rhan annatod o ddatblygiad personol Iwan. Bob amser yn awyddus i gymryd rhan, mae wedi elwa o ddatblygu rhwydwaith cryf o ffrindiau trwy gystadlu a theithio yn y DU a ledled y byd. Mae Iwan hyd yn oed yn priodoli ei hobi newydd o feicio i’r sefydliad ar ôl bod yn ddigon dewr i gymryd rhan mewn taith feic noddedig gyda’i glwb i godi arian i wahanol elusennau. 

Yn barod i wynebu’r heriau y mae’n rhagweld y bydd yn wynebu’r busnes yn y dyfodol, mae Iwan ar hyn o bryd yn ceisio datblygu ei ddealltwriaeth o sut i reoli a llywio’r busnes ymlaen ac addasu i newidiadau rheoliadol. Mae’r teulu yn ddiweddar wedi prynu tir cyfagos ac mae’n bwriadu defnyddio hwnnw ar gyfer menter arallgyfeirio er mwyn ategu’r busnes gyda ffynhonnell arall o incwm. 

Mae Iwan yn credu y bydd cymryd rhan yn Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth yn ei helpu i ddatblygu ei sgiliau rheoli busnes trwy ddysgu gan eraill. 

“Rwy’n edrych ymlaen at gael cymryd rhan yng ngweithgareddau’r rhaglen ac i rwydweithio â phobl busnes eraill sydd â’r un anian. Rwy’n gobeithio dysgu mwy am y prosesau arallgyfeirio a’r opsiynau sydd ar gael i mi fel ffermwr llaeth. Rwy’n ffyddiog y byddaf yn elwa llawer o’r Academi Amaeth.”