Grisial Pugh Jones

GOGLEDD SIR DREFALDWYN 


Grisial Pugh Jones yw swyddog datblygu Cyswllt Ffermio ar gyfer Gogledd Sir Drefaldwyn. Mae Grisial o gefndir amaethyddol, yn cadw defaid ar y fferm adref a bellach yn byw yn Nolgellau ar fferm biff a defaid. Mae'n gymysgedd o fferm iseldir, ucheldir a fferm fynydd, felly mae digon o amrywiaeth. Rydym wedi canolbwynio ar reolaeth glaswelltir a gwella iechyd anifeiliaid yn y blynyddoedd diwethaf er mwyn gwella effeithlonrwydd y fferm. Yn ogystal â hyn, mae datblygu'r parc carafannau a champio dros blynyddoedd diwethaf wedi atgyfnerthu’r busnes ac yn gweithio’n dda law yn llaw ar ffarm.

Bu'n astudio busnes ym Mhrifysgol Bangor, cyn gweithio fel ymgynghorydd yswiriant gyda'r NFU yn Nolgellau am saith mlynedd. Gan ei bod yn mwynhau’r ochr amaethyddol a chefnogi ffermwyr, ymunodd Grisial â thîm Cyswllt Ffermio.

“Mae’n gyfnod heriol i ffemwyr yng Nghymru ar y funud. Fy rôl fel swyddog datblygu yw cyfeirio busnesau at yr amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael i’w cynorthwyo i ddatblygu eu busnes, ac eu hunain fel unigolion.”

“Gan ein bod wedi defnyddio gwasanaethau Cyswllt Ffermio ein hunain, rydw i wedi gweld fy hun pa mor effeithiol a defnyddiol yw Cyswllt Ffermio i ffermwyr ac felly’n mwynhau gweld eraill yn cael yr un mantais, ac yn datblygu eu busnes ar gyfer y dyfodol.”