College Farm, Trefeca, Aberhonddu

Prosiect Safle Ffocws: Clefydau ‘Rhewfryn’ mewn Defaid

Nod y prosiect:

Prif nod y prosiect yw deall gwir statws iechyd y ddiadell ar College Farm; adnabod lefel y clefydau hyn yn y ddiadell, ac os byddant yn dod i’r amlwg, eu rheoli’n briodol.  Gan weithio’n agos gyda’r milfeddyg a’r practis lleol, bydd canfod y clefydau hyn yn galluogi penderfyniadau cwarantîn synhwyrol yn ogystal â  gwella rheolaeth o’r ddiadell er mwyn atal y clefydau rhag lledaenu ymhellach.  Yn dilyn canlyniadau pob prawf, bydd protocol i reoli ac atal lledaeniad pellach yn cael ei ddatblygu.  Trwy wella statws iechyd y ddiadell, y gobaith yw y bydd cynhyrchiant ac effeithlonrwydd hefyd yn cynyddu.  Yn ogystal, rydym yn gobeithio y bydd y prosiect yn amlygu ac yn hybu arfer dda o ran prynu stoc/hyrddod i leihau’r perygl o gyflwyno clefydau pellach i’r ddiadell.  Byddai’n rhain yn cynnwys prynu deallus, gwell bioddiogelwch a phrotocol difa.


Prosiectau cysylltiedig Ein Ffermydd

Cefngwilgy Fawr
Gareth, Edward a Kate Jones Cefngwilgy Fawr, Llanidloes Meysydd
Pantyderi
Wyn a Eurig Jones Pantyderi, Boncath, Sir Benfro Meysydd
Llysun
Llysun, Llanerfyl, Y Trallwng Prif Amcanion Datblygu